Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 5 Ebrill 2017.
Bydd fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw yn canolbwyntio’n bennaf ar yr angen am fwy o gynllunio sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru yn y sector adeiladu os ydym am sicrhau’r budd gorau posibl ar gyfer pobl Cymru o ran creu swyddi, defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol a buddsoddi mewn sgiliau, fel y gallwn ateb gofynion ein prosiectau seilwaith sydd ar y ffordd.
Mae pwysigrwydd cynllunio sgiliau’n effeithiol i lwyddiant darparu seilwaith yn parhau i gael ei amlygu fel un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r sector adeiladu a’r sector peirianneg yng Nghymru. Felly, er mwyn manteisio ar yr amgylchedd adeiladu sydd ar y cyfan yn gadarnhaol yng Nghymru ar hyn o bryd, rhaid i Lywodraeth Cymru a’r diwydiant weithio’n agos â’i gilydd i recriwtio pobl dalentog a hyfforddi’r gweithlu gan osgoi camgymharu sgiliau’n ddiangen ar yr un pryd wrth gwrs.
Ar gyfer cynllunio sgiliau, dylai arloesedd a chosteffeithiolrwydd fod yn ffactorau allweddol ar gyfer twf a diwygio yn y dyfodol. Mae partneriaeth agosach rhwng cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn hanfodol, wrth gwrs, yn ogystal â chysylltu gwybodaeth am y farchnad lafur â phartneriaethau dysgu a sgiliau rhanbarthol. Yng Nghymru, mae gennym bartneriaethau sgiliau rhanbarthol sy’n dwyn ynghyd ystod o gyrff perthnasol i gydlynu a chynllunio ar gyfer datblygu sgiliau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw strwythur ffurfiol ar gyfer cydlynu eu gwaith ar lefel genedlaethol.
Yng nghynigion Plaid Cymru ar gomisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, roeddem yn galw am wneud cynllunio a rhagweld sgiliau yn rhan ganolog o gylch gwaith y comisiwn, a allai fod wedi darparu’r lefel honno o gydgysylltiad canolog. Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cytunodd Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru a Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru y dylai sgiliau’r sector adeiladu fod yn rhan o gylch gwaith y comisiwn ac y dylai gynhyrchu cynllun seilwaith cenedlaethol ar gyfer sgiliau i ragweld gofynion ac osgoi bylchau yn y galw. Yn anffodus, gwrthododd Llywodraeth Cymru y syniad hwn, gan honni bod y strwythurau presennol yn briodol i ateb y galw yn y dyfodol. Mae’n debyg mai amser yn unig a ddengys a ydynt yn gywir ai peidio.
Mae ein cynnig heddiw yn galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu coleg adeiladu cenedlaethol i Gymru. Yn ôl ym mis Chwefror 2015, ddwy flynedd yn ôl bellach, dywedodd y Gweinidog sgiliau ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n galed iawn i gael coleg adeiladu ar y gweill cyn gynted ag y bo modd ac y byddai’n cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr. Fodd bynnag, hyd y gwn i, ychydig iawn sydd wedi digwydd ers hynny.
Felly, pam fod angen coleg adeiladu cenedlaethol ar gyfer Cymru? Dros y blynyddoedd, mae rhai prentisiaid wedi gorfod gadael Cymru i feithrin sgiliau adeiladu cydnabyddedig y diwydiant. Byddai’r coleg adeiladu cenedlaethol, fel endid strategol, yn sicrhau bod gan Gymru sgiliau cynhenid ar waith i ddiwallu anghenion y diwydiant ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, yn wir. Mae’r achos dros goleg adeiladu cenedlaethol wedi’i adeiladu o’r newydd yn seiliedig ar y model ar gyfer gweddill colegau adeiladu cenedlaethol y DU—i fodloni’r galw am gyrsiau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru. Byddai’n cynnig darpariaeth wedi’i theilwra’n well i anghenion y diwydiant yng Nghymru, gyda staff a chyfleusterau addysgu arbenigol a all helpu i godi proffil, ac atyniad y sector yn wir.
Gallai cyfleuster wedi’i adeiladu o’r newydd gynnig canolfan ragoriaeth bwrpasol gyda manteision sylweddol i ganiatáu, er enghraifft, ar gyfer cyfarpar ar raddfa fawr ac ymarfer realistig ar raddfa sy’n annhebygol o fod ar gael yn y ddarpariaeth bresennol, a galluogi cwmnïau adeiladu yng Nghymru i ddatblygu sylfaen ehangach o sgiliau er mwyn cystadlu’n effeithiol yng Nghymru, ac wrth gwrs, y tu allan i Gymru. Gallai cyfleuster o’r fath fod o fudd i sector adeiladu Cymru drwy ddod ag adnoddau ac offer datblygedig o fewn cyrraedd yn ariannol.
Ceir heriau sylweddol o’n blaenau os ydym am sicrhau bod gan y sector adeiladu yng Nghymru allu i gyflawni prosiectau seilwaith a’r prosiectau seilwaith yn y dyfodol y gwyddom eu bod ar y ffordd. Fodd bynnag, mae yna hefyd gyfleoedd sylweddol os rhoddir camau ar waith i ateb y galw hwnnw.
Rwy’n cydnabod bod camau wedi cael eu gwneud yn y blynyddoedd diwethaf, megis sefydlu canolfan arloesi adeiladu ar gyfer Cymru yn Abertawe sydd i agor ym mis Medi eleni. Fodd bynnag, mae angen endid strategol sy’n darparu os nad y cyfan, yna llawer mwy, yn sicr, o hyfforddiant y sector adeiladu sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Felly, neges allweddol o’r ddadl hon y prynhawn yma yw bod ymgysylltiad gwell â’r sector yn hanfodol bellach er mwyn blaengynllunio sgiliau’n well a sicrhau gwelliant hirdymor i’r ddarpariaeth hyfforddiant yn y sector adeiladu.