8. 8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu a Chaffael yn y Sector Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:14, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Nawr, mae gwelededd cynlluniau’r dyfodol ar gyfer buddsoddi yn ein seilwaith yn rhoi’r hyder sydd ei angen arno i’r sector adeiladu fuddsoddi mewn sgiliau. Dyna pam, hyd yn oed yn y cyfnod ansicr hwn, yr oeddwn yn awyddus i ddarparu rhaglen gyfalaf bedair blynedd yn ystod ein cylch cyllidebol diweddaraf.

Yn fy marn i, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig heddiw nid oherwydd bod gwahaniaethau mawr rhwng ein huchelgeisiau, ond oherwydd ein bod yn credu ar y pwynt hwn fod set wahanol o gamau gweithredu yn debygol o fod yn fwy effeithiol ar gyfer cefnogi’r sector adeiladu, ac i elwa’n llawn ar bŵer prynu y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn benodol, nid ydym o’r farn mai dyma’r foment iawn i gyflwyno Bil caffael fel y mae’r cynnig yn ei ofyn. Efallai y bydd goblygiadau pellgyrhaeddol i bolisi caffael yn deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, er bod hynny’n bell o fod mor glir ag y byddai rhai yma am i chi ei gredu.

Tynnodd Jenny Rathbone sylw, yn gwbl briodol, at ymrwymiad y Llywodraeth hon, fel y’i nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, er mwyn sicrhau bod yr holl amddiffyniadau mewn cyflogaeth, mewn rheoliadau amgylcheddol ac mewn hawliau defnyddwyr a fwynheir gennym o ganlyniad i’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn parhau i gael eu darparu ar gyfer ein dinasyddion ar ôl Brexit. Fodd bynnag, mae deddfwriaeth yn galw am lefel o sicrwydd a fyddai’n anodd ei chyrraedd yn ystod y cyfnod o newid cyflym sydd o’n blaenau. Ar gyfer y cyfnod sydd i ddod, credwn fod angen i ni adeiladu ar y tirlun polisi sydd gennym ar waith yma yng Nghymru—datganiad polisi caffael Cymru, y gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr, y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi—i wneud y gwahaniaeth yr ydym am ei weld o ran creu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant, mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, dileu cosbrestru a sicrhau’r gwerth gorau am y bunt gyhoeddus yng Nghymru.

Ac wrth gwrs, mae mwy o dir i’w ennill. Gwyddom o ganlyniadau ein rhaglen wirio ffitrwydd i gaffael fod gennym wahanol raddau o allu caffael ledled Cymru. Yn y sector llywodraeth leol, er enghraifft, mae rhai o’r cynghorau sy’n perfformio’n well ac sy’n cymhwyso’r polisi arloesi yn galluogi cyflenwyr wedi’u lleoli yng Nghymru i ennill dros 70 y cant o’r gwariant. Mewn cynghorau gyda gallu caffael llai datblygedig, cedwir cyn lleied â 36 y cant o’r gwariant caffael yng Nghymru. Felly, os ydym yn mynd i wneud y gorau o werth caffael, rydym yn canolbwyntio ar dyfu gallu fel bod ein polisïau arloesol yn cael eu cymhwyso’n unffurf ar draws Cymru.

Mae’r achos dros goleg adeiladu cenedlaethol wedi cael sylw yn y cynnig, ac mae Llyr Huws Gruffydd wedi nodi’r rhesymau’n fedrus pam y byddai syniad o’r fath am aros yn rhan o dirwedd bosibl yn y dyfodol at ddibenion cynllunio sgiliau. Am y tro, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu a’r consortiwm a arweinir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, fel y dywedodd Llyr, yn sefydlu Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru i gynnig cyfleusterau a hyfforddiant o’r radd flaenaf ar gyfer unigolion a chwmnïau adeiladu. Bydd pencadlys y ganolfan arloesi yn Abertawe, ond bydd ganddi safleoedd hefyd mewn colegau ledled Cymru, gan gynnwys Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Cambria a Choleg y Cymoedd.

Lywydd, mae’n dir cyffredin rhwng y Llywodraeth a chynigydd y cynnig fod uchafu gwariant seilwaith cyfalaf yn ddull hanfodol o gefnogi economi Cymru yn gyffredinol, a’r diwydiant adeiladu yn arbennig. Yn erbyn y cefndir o setliadau heriol gan Lywodraeth y DU, byddaf yn ystyried pob dull sydd ar gael i gefnogi ein rhaglenni buddsoddi cyfalaf. Fy mlaenoriaeth gyntaf bob amser yw gwneud y defnydd mwyaf posibl o bob ceiniog o gyfalaf confensiynol sydd ar gael, ac yna ystyried y ffordd orau i ddefnyddio dulliau eraill.

Bydd y Llywodraeth yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd a gyflwynir gan ein pwerau benthyca uniongyrchol newydd o 2019-20 ymlaen, sydd wedi cynyddu’n sylweddol o £500 miliwn i £1 biliwn. Rydym yn parhau i sicrhau bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd benthyca cost isel sydd ar gael iddynt, ochr yn ochr â harneisio modelau ariannu amgen, megis ein model buddsoddi cydfuddiannol yng Nghymru, a lansiwyd ar 23 Mawrth. Ac mae’n rhan o’n dymuniad i gael y math hwnnw o uchelgais ar gyfer ein dyfodol, fel y nododd Dai Lloyd wrth agor pan restrodd y prosiectau buddsoddi sylweddol sydd gennym— in the pipeline at present,

[Yn parhau.]—ac sy’n rhoi hwb i’r economi a’r sector adeiladu ar draws Cymru.

Llywydd, siaradodd Mohammad Asghar am welliant y Ceidwadwyr, y bydd y Llywodraeth yn ei gefnogi, oherwydd bod datganiad polisi caffael Cymru eisoes wedi cael effaith bwerus drwy leihau’r rhwystrau i gaffael, ac rydym yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus mewn prosiectau seilwaith ac adeiladu i sicrhau manteision lleol. Mae wedi agor y drws i gyflenwyr llai o faint a mwy lleol. Mae bron i dri chwarter y contractau adeiladu mawr a ddyfernir ar GwerthwchiGymru bellach yn cael eu hennill gan gontractwyr cynhenid. Ac mae ein polisi budd i’r gymuned wedi ei gwneud yn bosibl i 83 y cant o’r £1.3 biliwn o fuddsoddiad a fesurwyd gael ei ailgylchu yma yng Nghymru.

Llywydd, hoffwn ddiolch i’r rhai a gynigiodd y cynnig. Mae’r ddadl wedi bod yn werthfawr yn y pwyntiau y mae wedi’u codi ac yn ein helpu i wneud yn siŵr fod yn rhaid i ni ganolbwyntio yn awr ar gynorthwyo cyrff cyhoeddus i ddatblygu eu gallu i ddefnyddio’r polisïau sydd gennym yma yng Nghymru a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn y ffordd orau.