Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser i grynhoi’r ddadl yma ac i drio dod â’r gwahanol awgrymiadau rydym ni wedi’u clywed gan y gwahanol siaradwyr at ei gilydd. A gaf i ddiolch i Mohammad Asghar am ei gyfraniad graenus, fel arfer? Mi fyddwn ni’n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, er ei fod, fwy neu lai, yn cefnogi’r un amcanion â ni, ond yn yr ysbryd yma o edrych yn gariadus ar ein gilydd, felly, ar draws fanna, pan fônt yn sylfaenol yn cytuno efo nifer sylweddol o beth rydym yn ei ddweud, rydym yn fodlon cefnogi hynny.
A allaf ddiolch yn fawr i Sian Gwenllian am ei chyfraniad arbennig am rôl merched yn y gweithle? Hoffwn fynd ar ôl trywydd pwysigrwydd cael mesurau yn eu lle, a gwneud yn siŵr ein bod ni’n mynd ar ôl yr holl fusnes caffael yma mewn modd sydd yn gwella cyfleodd i bobl ac ehangu cyfleodd, a gwneud yn siŵr bod yna ryw fath o gydwybod cymdeithasol y tu ôl i’r penderfyniadau caffael yn y byd caffael cyhoeddus. Mae caffael, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio ato, yn cynnig cyfleoedd enfawr i ni, ond hefyd, rydym yn credu bod angen diwygio ei weithredu, yn aml, ar hyd y llinellau y gwnaeth Sian Gwenllian eu hawgrymu.
A allaf hefyd ddiolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniad ynglŷn â chartrefi sero carbon a phethau tebyg? Diolch yn fawr iawn i Jenny am ei chyfraniad doeth yn fanna. A hefyd i Llyr, a wnaeth bwysleisio pwysigrwydd sgiliau yn hyn, a hefyd y coleg i hybu’r sgiliau hynny yn y sector diwydiant adeiladu. A allaf hefyd longyfarch Michelle Brown ar ei chyfraniad, er roeddwn i wedi drysu braidd yn ystod y cyfraniad, ond mae wastad yn hwyl cael gwrando ar gyfraniadau rhai Aelodau yn y Siambr yma?
A hefyd, yr Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford, a gaf hefyd eich llongyfarch chi ar eich cyfraniad? Mae’n amlwg bod yna gryn dipyn o gytundeb rhyngom ni fan hyn ar beth sydd angen ei wneud. Mae yna rai pethau sy’n ein dal ni yn ôl, yn naturiol. Rydym ni i gyd yn gwybod bod economi Cymru ar hyn o bryd, ein cyfoeth ni, felly—. Mae 75 y cant o’r cyfoeth yna’n dod o’r sector gyhoeddus a dim ond 25 y cant yn dod o’r sector breifat. Mae caffael cyhoeddus, felly, o’r sector gyhoeddus, yn gallu bod yn arf bwysig i drio gwyro’r ffigurau yna fel bod y sector gyhoeddus yn gallu buddsoddi ac ariannu yn y sector breifat, a chodi honno i fyny fel arf. Felly, un sector yn helpu’r llall er mwyn cynyddu’r gweithredoedd sydd yn digwydd yma. Mae yna ddiwydiant adeiladu allan fanna sydd eisiau gweld rhagor o adeiladu, fel gwnes i grybwyll ar y dechrau. Mae yna ryw £40 biliwn o brosiectau yn y ‘pipeline’ felly, a dyna pam mae eisiau gwireddu’r breuddwydion yna, rhyddhau’r pres efo’r comisiwn isadeiledd rydym ni wastad yn sôn amdano fo—ein NICW ni, felly—ac mae eisiau rhyddhau’r pres a mynd amdani. Ond rhan allweddol o hynny ydy’r busnes caffael cyhoeddus yma, ac mae yna ffordd o wella ein system caffael. Rydw i’n tueddu i gredu ein bod ni i gyd yn sylfaenol yn credu bod angen ychydig bach o ddiwygio ac mi fuasem ni’n gallu gwneud yn llawer gwell ar hyd y llinellau roedd Sian Gwenllian yn eu hawgrymu.
Ni allwn gytuno efo gwelliannau’r Llywodraeth heddiw, mae gen i ofn, er yr ysbryd yna y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei farn y prynhawn yma. Pwrpas ein cynnig ni ar gyfer y ddadl heddiw oedd amlygu sut y gall gweithredu ar faterion gael effaith bositif iawn ar ddiwydiant adeiladu yma yng Nghymru. Mae yna bobl yn ein diwydiant adeiladu ni sydd eisiau gweld agor y llifddorau, achos fel dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn y maes caffael, er enghraifft, mae’r sector gyhoeddus yn gyfrifol am dros 75 y cant o holl wariant caffael adeiladu yng Nghymru. Felly, fe all gweithredu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a’r ymarferion a’r strategaethau caffael, gael effaith enfawr ar iechyd ein heconomi ni, a thrio gwneud rhywbeth ynglŷn â’r ‘split’ yna—y 75 y cant sector gyhoeddus a 25 y cant sector breifat. Mae’n wirioneddol angen codi y 25 y cant yna a chreu cyfoeth i’n gwlad.
Wrth gwrs, mae dadleuon y gwrthbleidiau yn aml yn gyfle i wneud pwyntiau gwleidyddol, yn naturiol, ond maent hefyd yn gyfle i drafod pynciau a materion a all gael effaith uniongyrchol bositif ar fywydau ein dinasyddion. Dyna rydw i’n gobeithio rydym wedi trio cyflawni’r prynhawn yma, wrth i bobl edrych ar ein diwydiant adeiladu ni a’r system gaffael a’r angen i wneud yn siŵr, pan fydd cwmnïau yn cael cytundeb i adeiladu beth bynnag yw e, fod y cytundebau yna yn rhedeg yn llym, yn amserol—fel y dywedais i yn fy nghyfraniad i i ddechrau—a ddim yn gwastraffu pres, ond hefyd fod pobl yn cael eu talu yn brydlon, ar amser a ddim yn gorfod aros am fisoedd cyn cael eu talu gan beryglu eu holl fodolaeth fel cwmni, fel sy’n gallu digwydd yn awr efo rhai cytundebau adeiladu. Felly, ar ddiwedd y dydd, gobeithio gwnewch chi gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn i chi.