Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Llywydd, ac rwy’n cynnig y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Pwynt y cynnig heddiw yw cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus sylweddol ledled Cymru, ac i edrych ar ffyrdd y gall awdurdodau lleol gefnogi ein cymunedau lleol yn well ar gyfer y dyfodol. Nawr, rydym am weld llywodraeth leol gref ac effeithiol a fydd yn rhoi pŵer yn ôl yn nwylo pobl leol a’u cymunedau. Rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn frwd ynglŷn â chroesawu lleoliaeth er mwyn arloesi a diogelu gwasanaethau cyhoeddus pwysig, ac mae yna nifer o ffyrdd y gall hyn ddigwydd.
Wrth gwrs, mae enghreifftiau o arloesi yn amlwg ar draws Cymru, er enghraifft cyflwynodd yr awdurdod a arweinir gan y Ceidwadwyr yn Sir Fynwy brosiect Rhaglan yn 2015, a oedd yn ailfodelu’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn. Mae hyn yn sicrhau y gall weithio gyda phobl sydd angen cymorth drwy ddarparu cymorth yn bennaf i bobl yn eu cartrefi eu hunain lle bynnag y bo’n bosibl, gan hybu annibyniaeth, a lleddfu’r baich ar y GIG yng Nghymru sydd eisoes dan ormod o bwysau. Mae’r prosiect yn cynorthwyo pobl sy’n byw gyda dementia ac yn canolbwyntio ar ofalwyr sy’n cyflawni gweithgareddau ar ôl trafodaethau dyddiol gyda’r unigolyn a’r teulu, yn hytrach na gweithio ar gynlluniau sefydlog ac amseroedd gosod. Mae’r prosiect wedi datblygu cysylltiadau gyda’r gymuned, ac wedi cynorthwyo pobl i ailymgysylltu â ffrindiau, teulu a’r pentref yn ei gyfanrwydd. Dyma’n union y math o weithredu y mae angen i ni ei hyrwyddo a’i gyflwyno ar draws rhannau eraill o Gymru: gweithredu sy’n arloesol yn ei ddull o ddarparu gwasanaethau, a gweithredu sy’n mynd ati’n weithredol i ymgysylltu a gweithio gyda chymunedau lleol.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn parhau i hyrwyddo agenda hawliau cymunedol y credwn y byddai’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau a chynghorau, ac yn sicrhau gwelliannau sylweddol i gynnwys cymunedau lleol yn well yn y broses o wneud penderfyniadau. Rydym yn credu bod cyflwyno’r pwerau cymunedol hyn yn ffordd gosteffeithiol o ganiatáu i grwpiau cymunedol gael llais ar gyfer herio a mynegi diddordeb mewn cyflawni gwasanaeth neu gymryd meddiant at amwynder cyhoeddus o bwysigrwydd lleol. Wrth gwrs, byddai agenda hawliau cymunedol yn cynnwys hawl cymuned i herio gwasanaethau cyngor, ond hefyd yr hawl i wneud cais am asedau cyngor, gan alluogi cymunedau a grwpiau lleol i gymryd meddiant ar asedau sy’n cael trafferth neu sy’n wynebu bygythiad o gau. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynlluniau cymdogaeth hefyd, gan gynnwys hawl gymunedol i adeiladu a chynlluniau datblygu cymdogaeth er mwyn galluogi cymunedau i gyflwyno datblygiadau bach a arweinir gan y gymuned, megis siopau, gwasanaethau neu dai fforddiadwy.
Yn y pen draw, rydym am wthio mwy o rym ac ymreolaeth tuag at ein cymunedau lleol a chyflawni datganoli go iawn sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau lleol. Rhaid i’n cymunedau gael y cyfleoedd gorau posibl i redeg eu gwasanaethau eu hunain yn eu hardaloedd eu hunain. Rhaid i ni rymuso ac annog awdurdodau lleol i ymgysylltu mwy gyda grwpiau cymunedol lleol ac annog mwy o gyfrifoldeb ar y cyd yn ein cymunedau.
Nawr, un o’r heriau allweddol i awdurdodau lleol yn y dyfodol, wrth gwrs, fydd diogelu neu gynnal gwasanaethau sy’n effeithio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau gan sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn eu gwariant hefyd, ac nid yw hyn yn hawdd bob amser. Bydd yn her arbennig i awdurdodau gwledig lleol fel Sir Benfro yn fy etholaeth fy hun, a fydd yn parhau i gael trafferth i ddarparu ei lefel bresennol o wasanaethau, yn rhannol oherwydd ei daearyddiaeth ac oherwydd bod costau uwch ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Mae darparu gwasanaethau megis gwasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn, er enghraifft, yn gallu bod yn broblem dros ardaloedd daearyddol mawr a gwasgarog, yn ogystal â llawer o wasanaethau eraill, fel darparu ysgolion gwledig. Felly, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru o ddifrif yn cydnabod rhai o’r heriau y mae awdurdodau gwledig yn eu hwynebu, ac mae’n rhaid gwneud ymdrech i leddfu rhai o gostau anghymesur darparu gwasanaethau i gymunedau gwledig.
Yn wir, mae’n rhwystredig fod cynghorau ledled Cymru wedi wynebu gostyngiad o 7 y cant yn eu cyllideb ers 2013-14. Yn anffodus, unwaith eto, cynghorau gwledig sydd wedi wynebu’r gostyngiadau mwyaf, gyda Phowys, Sir Fynwy, a Cheredigion yn wynebu’r gostyngiadau cyffredinol mwyaf yn eu cyllid ar 11 y cant, 10 y cant, ac 9.82 y cant yn y drefn honno. Nawr, rwy’n derbyn yn llwyr fod yn rhaid gwneud penderfyniadau ariannol anodd—