Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i chi, Llywydd. A diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae’n ffaith fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn amlwg o dan bwysau cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn gwybod hynny, maent hwy’n gwybod hynny, nid oes modd ei wadu, beth bynnag yw eich barn am y rhesymau drosto. Fel y dywedodd Paul Davies wrth agor, mae angen arloesedd mewn llywodraeth leol, ac mae angen gweithredu ac nid geiriau’n unig. Mae arnom angen dull o weithredu o’r gwaelod i fyny sy’n ymgysylltu go iawn â chymunedau lleol. Fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud, bydd costau rhedeg cynghorau yn cynyddu £750 miliwn erbyn 2019-20. Felly, nid yw’n eithriadol o ddyrys. Mae angen i ni wneud pethau’n wahanol, mae angen arloesi ac mae angen i ni ddysgu o arferion gorau.
Mae fy nghyngor hun yn Sir Fynwy, a grybwyllwyd gan nifer o siaradwyr, ac a arweinir gan Peter Fox, wedi creu argraff yn y maes hwn—[Torri ar draws.] OBE, yn wir. Mewn sawl ffordd, mae Sir Fynwy wedi cael ei gorfodi i arloesi, ond mae wedi gweithio. Mae’n gwneud mwy gyda llai nag erioed o’r blaen, ac mae ffrwyth hynny yno i bawb ei weld. Mae Sir Fynwy wedi cyflawni hyn drwy gydweithio’n agos â busnesau, drwy gael wythnosau arloesol fel Wythnos Back2Business, i adeiladu cysylltiadau cryf gyda busnesau lleol a chwmnïau lleol, fel bod y cwmnïau hynny’n gwybod ble i ddod o hyd i gymorth pan fyddant fwyaf o’i angen.
Yn wir, siaradodd Dawn Bowden, mewn araith angerddol, am yr angen i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng cynghorau a busnesau. Fe sonioch am yr angen i’r economi leol fod yn ddigon cynhyrchiol i ddarparu’r cyllid ar gyfer yr economi leol, i’r cyngor gael yr arian i’w wario ar wasanaethau. Ac oes, mae llawer o awdurdodau yng Nghymru yn ddibynnol ar arian o’r canol—byddech yn disgwyl hynny mewn gwlad fel Cymru, gyda’r math o hanes sydd gennym—ond nid yw hynny’n dweud na ddylem geisio adeiladu sylfaen economaidd yr ardaloedd hyn er mwyn sicrhau, dros amser, gobeithio, y gallant ddod yn fwy hunangynhaliol, yn fwy annibynnol, yn fwy hyderus a chael mwy o arian i’w roi’n ôl i mewn i’r economïau lleol hynny. Bydd hynny’n gwella nid yn unig economïau’r ardaloedd hynny, ond hunan-barch yr ardaloedd hynny hefyd ac wrth symud tua’r dyfodol, y ffordd y maent yn edrych tuag allan ar weddill y byd.
Soniais am gyfraniad Dawn Bowden, os caf fi droi at rai o’r cyfraniadau eraill y mae siaradwyr wedi’u gwneud, a Suzy Davies, fe siaradoch yn helaeth am fod yn agored a thryloyw. Fe ddywedoch fod llawer o ymddieithrio rhag awdurdodau lleol, ac rydych yn hollol iawn i ofyn pam. Llywodraeth leol yw’r lefel fwyaf hygyrch o lywodraeth mewn gwirionedd, neu fe ddylai fod, gan mai hi sydd agosaf at bobl, ond yn rhy aml, mae ein hetholwyr yn ei chael yn haws dod atom ni yn y Siambr hon, neu i fynd i San Steffan—pa lefel bynnag y bo. Nid ydynt yn mynd yn awtomatig at eu hawdurdod lleol. Yn aml, mae’n deillio o sinigiaeth a grëwyd oherwydd y diffyg gweithredu a welsant yn y gorffennol wrth ddod â materion i sylw eu hawdurdodau lleol.
Felly, rwy’n meddwl bod angen i ni weld ysbryd newydd yn ein hawdurdodau lleol. Mae gennym yr etholiadau lleol ar y ffordd lle y gallwn gael cynghorwyr lleol sydd o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau eu hetholwyr. Efallai fod yn rhaid iddynt fod yn onest gyda hwy weithiau a dweud nad yw pethau’n bosibl—mae hynny’n rhan o fod mewn bywyd democrataidd—ond mae honno’n drafodaeth sy’n rhaid ei chael er mwyn ennyn yr hyder yr ydym am ei weld.
Roedd Darren Millar yn iawn i ddychwelyd at fater blinderus y fformiwla ariannu llywodraeth leol. Rwy’n derbyn sylw Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn ganolog i’r cynnig, ond os ceisiwch edrych ar y mater hwn ar wahân i’r fformiwla ariannu, bydd popeth arall yn disgyn, oherwydd heb y cyllid hwnnw, heb y tegwch hwnnw, heb yr olwg newydd honno ar y fformiwla ariannu, rwy’n credu, yn y blynyddoedd i ddod, ein bod yn mynd i’w chael yn anodd iawn cynnal gwasanaethau cyhoeddus ar y lefel leol y byddem yn hoffi ei gweld. Gwn yn iawn o fy amser fel cynghorydd sir fod y fformiwla ariannu llywodraeth leol yn fwystfil cymhleth iawn. Nid ydych yn mynd i newid y fformiwla ar chwarae bach. Mewn gwirionedd, i’r rhai sy’n deall y fformiwla, mae’n amrywiaeth o fformiwlâu gyda’r holl gysylltiadau sydd wedi datblygu dros amser. Ond nid yw hynny’n dweud na ddylem geisio, na ddylem ddechrau ar y broses o’i gwneud yn decach.
Rwy’n edrych draw ar Blaid Lafur Cymru, y blaid sydd wedi datgan dros gymaint o flynyddoedd mai hi yw plaid tegwch, y blaid ar gyfer Cymru a phlaid lleoliaeth yng Nghymru. Wel, gadewch i mi ddweud wrthych, nid yw’r fformiwla ariannu hon yn deg. Felly, os nad yw’n deg, awgrymaf eich bod yn mynd yn ôl i’r cychwyn, yn rhoi’r egwyddorion ar eich gair a’n bod yn edrych ar ddatblygu system newydd wrth inni symud ymlaen.
Os caf droi at Rhianon Passmore—ni wnaethoch adael i mi ymyrryd, sy’n ddoeth mae’n siŵr. I fod yn deg, Rhianon, nid oeddech lawn mor bleidiol ag y buoch mewn rhai areithiau. Gwnaethoch rai pwyntiau da iawn, mewn gwirionedd, ond fe aethoch â ni’n ôl i gyfnod caledi, sydd mor gyffredin mewn dadleuon yn y Siambr hon, a byddwn yn eich atgoffa—ni wnaethoch adael i mi wneud ar y pryd—fod y cyfnod hwnnw o galedi wedi dilyn y cyfnod o wariant afradlon a benthyca afradlon a dyled gynyddol nad yw’r Blaid Lafur yn awr yn dymuno i ni eu hatgoffa yn ei gylch. A wyddoch chi beth? Pe bai Rhianon Passmore ac efallai Mark Drakeford wedi bod yn rhedeg Llywodraeth y DU yn ôl yn y 2000au cynnar, efallai na fyddem yn y llanast hwn. Yn anffodus, nid oeddech, Rhianon. Byddwn wedi eich cefnogi yn ôl pob tebyg. Felly, rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, ac mae’n rhaid i ni symud ymlaen. Fe gymeraf ymyriad.