Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 2 Mai 2017.
Ydw, mi ydwyf, yn fawr iawn. Rwy'n credu bod gan Gaerdydd lawer iawn i'w gynnig o ran gwasanaethau cyfryngau. Rydym ni wedi gweld twf aruthrol yn y diwydiannau creadigol, nid yn unig yng Nghaerdydd ond y tu allan. Rydym ni wedi gweld twf aruthrol yn y cyfryngau yng Nghaerdydd, a byddai Caerdydd yn bencadlys delfrydol ar gyfer Channel 4.