Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 2 Mai 2017.
Diolchaf i chi am yr ateb yna ac rwy’n rhannu eich barn. A ydych chi’n cytuno, trwy orfodi cyflogwyr sector cyhoeddus i gyhoeddi gwybodaeth am amser hwyluso—hynny yw, yr amser a gymerir i ffwrdd o'r gwaith i ganiatáu cynrychiolwyr undebau i gyflawni eu dyletswyddau wrth helpu gweithwyr—trwy wneud hyn, bod Deddf yr Undebau Llafur 2016 yn gwahaniaethu’n amlwg yn erbyn gweithwyr sector cyhoeddus gan wanhau eu hawliau a’u hamodau gwaith? A beth, Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i amddiffyn hawliau gweithwyr ledled Cymru?