Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 2 Mai 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am gyhoeddi, yn wir, adroddiad tueddiadau’r dyfodol—tir newydd arall ar gyfer datganoli, er efallai nad yw mor arloesol â thir newydd arall? Ni fydd, mae'n debyg, mae’n flin gennyf ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, yn destun sgwrs mewn tafarnau a chlybiau ledled y wlad, ond cymeraf eich datganiad yn yr ysbryd yr ydych yn ei ddymuno, ac rwy’n gobeithio y bydd o fudd ym maes gwneud penderfyniadau polisi.
Mae hyn yn amlwg yn rhan o Fil Cenedlaethau’r Dyfodol ac, fel y gwyddom, bu pryderon ar draws y pleidiau yn y Siambr hon ynghylch gweithredu’r Bil hwnnw ac a yw’n cyflawni ei amcanion ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Rwy’n credu bod pobl yn dal i ystyried hynny a, gobeithio, os ydych chi'n iawn, y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio’r ffordd ymlaen o ran Bil cenedlaethau’r dyfodol ac y bydd yn egluro rhai o’r agweddau arno sy’n aneglur.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedasoch fod yr adroddiad hwn yn ceisio ymdrin ag ystod enfawr o feysydd mewn cyfnod cymharol fyr, yn amrywio o newid hinsawdd, i’r boblogaeth ac ystadegau iechyd. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y rhagolygon hyn—y gyfres o gwestiynau, fel y gwnaethoch ei galw—yn ddigon cywir mewn unrhyw ffordd i fod o ddefnydd ar gyfer y broses gwneud penderfyniadau? Rwy'n credu mai’r hyn yr wyf i'n ceisio’i ofyn i chi yw hyn: Rwy’n deall eich bod wedi gorfod darparu’r adroddiad hwn oherwydd deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—a ydym yn gwneud dim mwy na mynd ar drywydd ymarfer ticio blychau? A fydd hyn mewn gwirionedd yn werth yr amser sydd yn amlwg wedi ei dreulio arno?
Dywedasoch yn onest nad bwriad yr adroddiad oedd darparu cyfres o broffwydoliaethau, ond fe’i cynlluniwyd i annog darllenwyr i lunio eu hymateb eu hunain. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, unwaith eto, nad wyf yn hollol siŵr pa mor ddefnyddiol y gall y broses hon fod. Rwy’n gobeithio y gallwch chi fy narbwyllo i. Ac yn benodol ym maes yr amgylchedd, dyfynnaf:
‘mae amrywiaeth eang o senarios a modelau newid hinsawdd.’
Daw hynny o’r adran newid hinsawdd. Wel, oes, yn amlwg. Rwy’n credu ein bod ni’n gwybod hynny. Nid rhagfynegiad yw hynny mewn gwirionedd ac nid yw hyd yn oed yn gwestiwn; mae’n ddatganiad o’n sefyllfa ni. Ni allaf weld sut y bydd yr honiad yn rhoi unrhyw fewnbwn ystyrlon i'r prosesau gwneud penderfyniadau a llunio polisïau yn y tymor byr, ond, unwaith eto, efallai y gallwch chi ddweud wrthyf sut y bydd yn gwneud hyn.
Mae'n amlwg yn ffrwyth llawer o gydweithio —nid wyf yn amau hynny—rhwng adrannau'r Llywodraeth a chyrff allanol; mae llawer o waith wedi'i wneud ar hyn. Dywedasoch tua diwedd eich datganiad mai dechrau’r gwaith yw hyn o wella’r gallu i wneud penderfyniadau. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y gwaith yn datblygu? Rydych chi wedi sôn am greu cronfa ddata. Pa ffurf bendant fydd i’r gronfa ddata? A fyddwn yn gweld adroddiadau yn y dyfodol? A oes gofyniad i lunio adroddiadau yn y dyfodol? Nid wyf yn siwr. A fydd gwahanol ddulliau o greu’r gronfa ddata honno? Ai dyletswydd adrannau’r Llywodraeth fydd gwneud hynny, neu a fydd yn cael ei chasglu'n ganolog? Ac a fydd gwerthusiad o hyn? Gwn na allwch chi werthuso’r dyfodol nes ei fod wedi digwydd—yn amlwg, nid wyf yn awgrymu y gallech chi—ond, ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd yn eithaf amlwg a oedd y rhagfynegiadau neu’r cwestiynau yn yr adroddiad hwn yn taro'r nod, neu a oeddent ymhell ohono. Mae'n debygol y byddant rywle yn y canol, ond pryd ydych chi’n bwriadu asesu a yw hyn wedi bod yn broses ddefnyddiol mewn gwirionedd ac a yw'n helpu deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol wrth ei gyflwyno?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos i mi—ac rwy’n credu y gwnewch chi dderbyn hyn—bod yr adroddiad hwn yn gofyn cynifer o gwestiynau ag y mae'n eu hateb. Rwy'n credu y byddai o gymorth pe gallech egluro sut yr ydych yn bwriadu ei ddatblygu, egluro sut yr ydych yn bwriadu ei werthuso a phryd yn union yn y dyfodol y byddwch yn edrych yn ôl a dweud, ‘Roedd hwnnw mewn gwirionedd yn ymarfer gwerth chweil iawn’, neu, ‘Efallai fod ffordd well o fynd ymlaen bryd hynny.’