Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 2 Mai 2017.
Mae gen i deimladau cymysg ynglŷn â’r adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi. Nid wyf i eisiau dadrithio’r Ysgrifennydd Cabinet ei fod e’n dilyn Cincinnatus i ryw fferm oherwydd helbul gwleidyddol. Rwyf yn credu ei fod yn beth da, yn sicr, bod y Llywodraeth yn cynhyrchu adroddiad o’r math yma a’n bod ni’n cynnal disgẃrs ar lefel lywodraethol ynglŷn â’r dyfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r holl faes o ragwelediad neu ddyfodoleg—‘futurology’—neu beth bynnag, wedi cael hi’n eithaf gwael a dweud y gwir oherwydd gwaith gan bobl fel Philip Tetlock, Daniel Kahneman a Nassim Taleb, sydd wedi cwestiynu i ba raddau rydym ni’n medru darogan y dyfodol. Rwy’n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn iawn i osgoi cwympo i mewn i’r fagl hynny, ond nid yw’r ffaith ein bod ni’n methu darogan y dyfodol yn golygu na ddylem ni gynnal sgwrs polisi ynglŷn â tueddiadau’r dyfodol. Felly, o ran fframwaith, rwy’n credu bod y fframwaith a’r dynesiad yn gywir.
Y gofid sydd gennyf i yw’r diffyg manyldeb sydd yn y ddogfen ar hyn o bryd, os rŷm ni’n ei chymharu hi, er enghraifft, gyda’r campweithiau sy’n cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth Singapore, er enghraifft, sydd, ers degawdau a dweud y gwir, wedi rhoi cymaint o bwyslais ar y cwestiwn yma o asesu effaith tueddiadau’r dyfodol. Mae’r un peth yn wir yn y Ffindir, er enghraifft. Felly, gwledydd cymharol fychain sydd yn rhoi tipyn o adnoddau i mewn i gynhyrchu adroddiad sydd yn llawer mwy sylweddol na hyn, a dweud y gwir, ac, wrth gwrs, gyda dwsinau a dwsinau o is-adroddiadau ar sail mewnbwn manwl gan arbenigwyr yn y maes.
Felly, gofyn ydw i, a phle gen i i Ysgrifennydd y Cabinet: iawn, dyma’r adroddiad cychwynnol wedi ei gynhyrchu o fewn blwyddyn, ond a allwn ni adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod yna adnoddau digonol fel bod adroddiad sy’n cael ei gynhyrchu ac is-adroddiadau ychydig bach yn llai arwynebol, a dweud y gwir? Nid oedd llawer yn yr adroddiad roeddwn i’n gallu’i weld nad oeddwn i’n gwybod yn barod i ryw raddau, ac roedd hynny yn siom. Roedd e yn ddefnyddiol i’r cyfeiriad arall—wrth edrych yn ôl—yn rhyfedd iawn. Roedd yna nifer o bethau yn yr adroddiad yn sôn am y cyfnod ar ôl datganoli, lle mae’n pwyntio mas ble rydym ni wedi methu. Rydym ni wedi methu o ran peidio â gwneud yn well na chadw’n wastad â gweddill y Deyrnas Unedig o ran yr economi. Y nod, wrth gwrs, oedd cau’r bwlch.
Mae’n sôn yn fan hyn fod yna botensial twf gan Gymru o ran ynni sydd heb ei gyffwrdd eto. Mae yna gyfeiriad at ddechrau arafach yng Nghymru o ran band eang o gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol, a chynnydd yn nifer y bobl o dan 18 oed sydd mewn tlodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ac, yn olaf, pwynt polisi arall ble rydym ni wedi methu: nifer yr aelwydydd yn cynyddu yn gyflymach na nifer y tai sydd ar gael. Beth sy’n ddiddorol am y rheini i gyd yw’r ffaith yr oedd y rheini i gyd yn nodau polisi tymor hir nad oeddem ni wedi medru cwrdd â nhw fel cenedl. Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, a fyddai modd gofyn y cwestiwn ‘pam’? Rwy’n gwybod ein bod ni mewn cyfnod etholiad, ac nid wyf yn rhoi’r bai i gyd ar y Llywodraeth yn fan hyn—mae yna glwstwr o resymau pam nad yw nodau polisi yn cael eu cyffwrdd—ond wrth ofyn pam mae methiant wedi bod yn y meysydd hynny dros y 18 mlynedd diwethaf, efallai fyddwn ni mewn sefyllfa well o wneud yn well ar gyfer y dyfodol sy’n dod.