<p>Cyngor Ynys Môn</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:59, 3 Mai 2017

Eisiau holi am un gwasanaeth penodol ydw i, gwasanaeth pwysig i gyngor Môn, fel i awdurdodau lleol ledled Cymru, sef gofalu am ffyrdd. Mae yna dueddiad, onid oes, o weld gwaith ffyrdd yn cynyddu’n arw ym misoedd cyntaf y flwyddyn, wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol nesáu. Ond, nid hyn yw’r ffordd orau i sicrhau safon gwaith a gwerth am arian, achos nid misoedd y gaeaf ydy’r amser gorau i ailwynebu ffyrdd. Mae’r ffordd newydd yn para yn llai o’i wneud o mewn tywydd oer, mae’r dyddiau gwaith yn fyrrach, a hefyd mae gwneud llawer o waith cynnal a chadw ar un adeg yn golygu nad ydy’r capasiti, o bosib, gan gwmnïau lleol i ymwneud â’r gwaith. Yr ateb, efallai, fyddai sicrhau bod gwaith yn cael ei rannu yn decach ar draws y flwyddyn, a chaniatáu i wneud mwy o waith hefyd yn ystod misoedd yr haf. Mae’r un peth yn wir am adran priffyrdd y Llywodraeth. Rŵan, rydw i’n sylweddoli nad y Gweinidog yma sy’n gyfrifol am drafnidiaeth a ffyrdd, ond fel Gweinidog cyllid a Gweinidog llywodraeth leol, pa waith sydd wedi cael ei wneud neu pa waith ydych chi’n ystyried ei wneud i chwilio am fodelau strwythurau cyllidol newydd i helpu dyrannu arian cynnal a chadw ffyrdd yn fwy hafal ar draws y flwyddyn?