Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Mai 2017.
Wel, rwy’n cytuno â David Melding fod yn rhaid i’r awdurdodau lleol eu hunain ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau lleol pwysig iawn mewn cyfnodau anodd. Dirprwy Lywydd, os ydych yn fodlon, hoffwn fanteisio am eiliad ar y cyfle i roi ychydig bach o gyhoeddusrwydd i’n cronfa arloesi i arbed newydd: gwerth £5 miliwn o arian, a ddaw yn sgil adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Cynulliad hwn, a fydd yn caniatáu i wasanaethau ieuenctid ac eraill wneud ceisiadau ar gyfer ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau. Y dyddiad cau ar gyfer y gronfa newydd yw 23 Mai ac rydym yn mawr obeithio y daw ceisiadau i law ym maes gwasanaethau plant ac ieuenctid yng Nghymru.