Part of the debate – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 3 Mai 2017.
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yw eitem 2 ar yr agenda. Mae gennym dri chwestiwn y prynhawn yma. Bydd y Llywydd, fel cadeirydd y Comisiwn a’r Comisiynydd cyfathrebu ac ymgysylltu, yn ateb y ddau gyntaf, a bydd y trydydd yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson, sef y Comisiynydd cydraddoldeb a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. Felly, daw’r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.