Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 3 Mai 2017.
Mae angen i unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal yn drylwyr ac yn deg, wrth gwrs, ond sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn modd amserol? Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau nad yw unrhyw ganfyddiadau yn cael eu diystyru’n syml gan yr ystrydeb sydd i’w gweld yn cael ei defnyddio pan welir bod corff cyhoeddus yn gwneud cam â’n pobl, sef ‘y bydd gwersi’n cael eu dysgu’? Yn olaf, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cynulliad llawn, nid y pwyllgor craffu’n unig, ar gyfer dadl ar y camau nesaf?