Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch. Mae’n bleser gen i, ar ran Plaid Cymru, hoelio ein sylw y prynhawn yma ar bwysigrwydd cynnal a datblygu llywodraeth leol gadarn yng Nghymru. Drwy gryfhau cymunedau, byddwn yn cryfhau Cymru.
Gyda chyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin yn dwyn sylw’r wasg a gwleidyddion o bob lliw, rwyf i yn falch bod yna gyfle inni oedi am ennyd yn y Senedd heddiw i drafod pwysigrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, mae’r etholiadau lleol yn gyfle i bobl leisio eu barn yfory.
Mae Plaid Cymru yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl, ond mae’r gwasanaethau cyhoeddus yma dan fygythiad. Mae cyllid wedi lleihau, a thoriadau yn dod yn sgil hynny. Mae’r Torïaid ar grwsâd ideolegol i ddatgymalu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn anffodus, mae gwaeth i ddod dros y blynyddoedd nesaf. Mae angen cynghorau cryf ym mhob cwr o’n gwlad, cynghorau sy’n gweithredu’n gyfrifol i amddiffyn y bobl wannaf a’r mwyaf bregus mewn cymdeithas; i amddiffyn y bobl sy’n cael eu taro waethaf gan y toriadau. Fe gafodd Cyngor Gwynedd ei ganmol gan yr archwiliwr cyhoeddus am ei gynllunio ariannol effeithiol a chadarn, er gwaetha’r toriadau.
Mae angen cynghorau cryf i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus, i fod yn darian yn erbyn y gwaethaf o’r toriadau, a pholisïau llymder y Torïaid. Ers yn rhy hir o lawer, rydym wedi bodloni ar wasanaeth eilradd gan lawer o’n cynghorau. Mae Plaid Cymru eisiau adeiladu Cymru newydd, ac, yn ein barn ni, y lle gorau i ddechrau ydy wrth ein traed. Lle mae Plaid Cymru yn arwain ein cynghorau—sir Gâr, Ceredigion, Conwy a Gwynedd—mi rydym yn darparu gwasanaethau ardderchog, er gwaetha’r cyfyngiadau ariannol llym sydd arnom ni. Mae’r cynghorau hyn yn arwain yng Nghymru, mewn meysydd mor amrywiol â thai cymdeithasol, addysg, strydoedd glân ac ailgylchu. Gydag addysg, mae Cyngor Sir Ceredigion yn arwain y ffordd fel yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn o berfformio’n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o arolygiadau.
Yn aml yn y Siambr yma, rydym yn trafod bod yna ddiffyg tai cymdeithasol yng Nghymru. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae Cyngor Sir Gâr, dan arweiniad Plaid Cymru, wedi gweithredu, gan ymrwymo i godi 60 o dai cyngor ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, fel rhan o ymrwymiad tai fforddiadwy ehangach, sydd yn addo darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy dros y bum mlynedd nesaf. Dyma’r cyngor cyntaf yng Nghymru i adeiladu tai cyngor newydd ers y 1980au. Mi rydym ni angen tai ar gyfer ein pobl, ond mae’n rhaid i stadau newydd fod yn y llefydd cywir, ac mae’n rhaid iddyn nhw gael eu cefnogi gan yr isadeiledd cywir—ffyrdd, ysgolion, ysbytai. Yn anffodus, mae cynllun datblygu lleol cyngor Caerdydd yn enghraifft o gynllun na fydd yn gweithio er budd y bobl, gyda’r ffocws ar adeiladu tai heb ystyried y canlyniadau.
Bob blwyddyn, mae’n cynghorau ni’n gwario miliynau o bunnoedd ar brynu nwyddau a gwasanaethau, ond, yn rhy aml, mae’r arian hwn yn llifo allan o Gymru. Nid yw cyflenwyr bychain lleol mewn sefyllfa bob tro i gystadlu â chystadleuwyr mwy am gontractau cynghorau. Ers 2012, mae canran cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau’n sefydlog ar 58 y cant. Yn ystod cyfnod o lymder, lle mae arian yn brin, mae’n gynyddol bwysig bod awdurdodau lleol, a’r sector cyhoeddus yn ehangach, yn sicrhau’r gwerth lleol mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â’r broblem yma, gan sefydlu system gaffael newydd, i gadw’r budd yn lleol. Nid yn unig mae hyn wedi cyfeirio miliynau i’r economi lleol, ond mae hefyd wedi arbed £2.3 miliwn i’r cyngor dros bum mlynedd.
Mae cynnal gwasanaethau cyhoeddus o safon yn galw am staff o’r ansawdd gorau i’w rhedeg. Mae pobl yn haeddu tâl teilwng am eu gwaith, ond ni ddylai bod bwlch mawr rhwng cyflogau y rhai ar y top a chyflogau’r gweithwyr rheng flaen, sy’n allweddol i lwyddiant. Rydym eisiau cau’r bwlch yma, ac rydym yn credu mewn gweithio tuag at fargen deg i bob gweithiwr cyngor, gan gynnwys y rhai sydd ar gytundebau dim oriau. Rwy’n mawr obeithio y gall y Llywodraeth heddiw ymrwymo i’r egwyddor o ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol, drwy gefnogi cymal 8 ein cynnig ni. Fel arall, fe fydd eich plaid chi’n cael ei chyhuddo o ragrith, efo’ch arweinwyr ar lefel y Deyrnas Unedig yn dweud un peth tra’ch bod chi yn dewis peidio gweithredu pan fo gennych chi’r cyfle i wneud hynny yng Nghymru. Ond, yn bwysicach na hynny, byddai cefnogi cymal 8 yn arwydd clir eich bod chi ar ochr rhai o’r gweithwyr mwyaf gwerthfawr ond isaf eu parch yng Nghymru ar hyn o bryd.
I gloi, mae gwasanaethau cyhoeddus o safon yn ganolog i ffyniant ein cenedl. Nhw ydy’r glud sy’n rhwymo ein cymdeithas, a’r rhwyd ddiogelwch sy’n cynnal y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni. Bydd cynghorwyr Plaid Cymru yn bencampwyr eu cymunedau, ac yn defnyddio’r holl bwerau sydd ganddyn nhw i wella bywydau pobl, i gryfhau cymunedau Cymru, ac i roi grym yn ôl yn nwylo’r bobl.