Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 3 Mai 2017.
Pleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar awdurdodau lleol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. [Torri ar draws.] A yw’n iawn? Mae’n iawn. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 12, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 35. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a symudwn ymlaen at welliant 1.