Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i gael y ddadl fer hon heddiw: Ysgol Wleidyddiaeth-grymuso’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithgar yng Nghymru. Mae’n drueni efallai fod y ddadl yn digwydd heddiw mewn gwirionedd, ar y noson cyn yr etholiadau lleol, ond o ystyried bod y ddadl fer heddiw’n canolbwyntio ar alluogi mwy o gyfranogiad gweithredol mewn gwleidyddiaeth, yna rwy’n credu y bydd yn rhaid inni oddef hynny a gadael i bobl fynd i ymgyrchu.
Mae sicrhau bod gan bobl iau yn arbennig y wybodaeth a’r hyder i deimlo y gallant gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru yn rhywbeth rwy’n angerddol yn ei gylch, yn bersonol ac yn wleidyddol. Hoffwn weld mwy o’r genhedlaeth nesaf mewn sefyllfa, nid yn unig i gwestiynu a dwyn pobl fel fi i gyfrif yn well, ond hefyd i deimlo y gallai bywyd gwleidyddol fod yn rhywbeth iddynt hwy hefyd. Ers fy ethol am y tro cyntaf bron i flwyddyn yn ôl erbyn hyn, mae mynd i ysgolion a cholegau i siarad â myfyrwyr yn rhywbeth rwyf wedi ymrwymo’n gadarn i’w wneud, a gwneud yn siŵr hefyd fy mod yn cyfarfod â phob grŵp ysgol yn fy etholaeth sy’n ymweld â’r Senedd drwy wasanaeth allgymorth ac addysg ardderchog y Cynulliad—er, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi colli un grŵp oherwydd ei fod ar ddydd Gwener etholaeth, ac roedd y gwasanaeth allgymorth yn hael iawn eu cymorth yn wir a recordiodd neges ar gyfer y plant yn egluro pam nad oeddwn yno. Yna, drwy gyd-ddigwyddiad, wythnos yn ddiweddarach, mae’n ymddangos bod y gwydr yn fy swyddfa yn gymharol denau a gallwn glywed pobl ifanc y tu allan yn dweud, ‘O, dyna hi a recordiodd y neges i ni.’ Felly, fe’u synnais drwy agor drws y swyddfa a rhoi fy mhen allan a chawsom sgwrs dda am eu hymweliad â’r Senedd, ymweliad a roddodd fwynhad mawr iddynt.
Pan fyddaf yn siarad â grwpiau o bobl iau, rwy’n aml yn agor gyda’r geiriau, ‘Fy enw yw Hannah Blythyn, ac rwy’n wleidydd.’ Nid rhyw fath o gyffes od rwyf ar fin ei gwneud yw hon, ond y pwynt rwy’n ei wneud drwy agor fel hyn yw eu bod yn eiriau na fyddwn byth wedi disgwyl iddynt ddod allan o fy ngheg pan oeddwn eu hoed hwy, yn eistedd yno, nid yn unig oherwydd nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn bodoli bryd hynny, ond am nad oeddwn yn un am siarad cyhoeddus ac nid oedd gwleidyddiaeth yn ymddangos fel pe bai—. Er fy mod wedi cael fy ngwleidyddoli gan y dref a’r gymuned lle y cefais fy magu, nid oeddwn o reidrwydd yn teimlo bod gwleidyddiaeth yn rhywbeth i mi. Nid oedd gwleidyddion yn edrych, yn swnio neu hyd yn oed yn gweithredu fel fi, ac nid oeddwn yn gwybod ble i ddechrau, lle y byddech yn cymryd rhan neu beth y gallech gymryd rhan ynddo. Felly, fy neges yw: os gallaf i ei wneud, gall unrhyw un arall ei wneud yn y dyfodol. Ond mae’r dirgelwch, y rhwystrau a’r camsyniadau ynglŷn â gwleidyddiaeth, beth ydyw, ar gyfer pwy y mae a phwy sy’n wleidydd yn parhau, ac mae gan bawb ohonom, yn y lle hwn a’r tu allan iddo, ddyletswydd ddemocrataidd i newid hyn.
Ond y cwestiwn mewn gwirionedd yw: ble rydym yn dechrau? Rwy’n falch o weld ymgynghoriad y Llywydd ar sefydlu senedd ieuenctid newydd i Gymru, a lansiwyd yr wythnos diwethaf. Mae’n bwysig fod pobl ifanc ledled Cymru yn cael cyfle cenedlaethol i gael eu llais wedi’i glywed ac i gyfrannu at ein democratiaeth ddatganoledig sy’n tyfu. Ond fel Aelod Cynulliad yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae’n arbennig o bwysig i mi fod unrhyw senedd ieuenctid yn cael ei gwneud yn hygyrch a bod cyfranogi yn opsiwn realistig i bobl ifanc ledled Cymru, waeth beth fo’u lleoliad, eu cefndir neu eu haddysg. Wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo, byddaf yn annog cynifer o sefydliadau ac unigolion ar draws gogledd Cymru i ddweud eu barn ac i ddylanwadu ar y ddarpar senedd ieuenctid yn gynnar. Hyderaf y bydd fy nghyd-Aelodau’n gwneud yr un peth.
Ychydig yn nes at adref, a chyfeiriad amserol wrth i ni fynd i bleidleisio yn yr etholiadau awdurdod lleol, roedd hi’n hyfryd clywed bod sefydlu cyngor ieuenctid ar gyfer Sir y Fflint yn un o addewidion etholiadol allweddol grŵp Llafur Sir y Fflint. Mae hyn yn rhywbeth a fydd yn cael fy nghefnogaeth lawn a gweithredol, a byddai’n ddiddorol gweld sut y mae cynghorau ieuenctid a sefydlwyd eisoes ar draws Cymru a’r DU yn gweithio’n ymarferol, yr hyn y gellir ei ddysgu a’r hyn y gellir adeiladu arno, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig nad ymarferion ticio blychau’n unig yw cynghorau ieuenctid a seneddau a bod pobl ifanc yn cael adnoddau a chefnogaeth ddigonol i’w galluogi i weld canlyniadau gwirioneddol yn deillio ohonynt.
Ond yr hyn a ddylai fod yn ganolog i hyn mewn gwirionedd yw mynd yn ôl i’r ysgol a dechrau arfogi pobl ar oed ifanc nid yn unig â’r offer i gymryd rhan weithredol ym mywyd gwleidyddol Cymru, ond i sylweddoli gwerth a phwysigrwydd gwneud hynny. Gall dinasyddiaeth weithgar mewn ysgolion annog a grymuso plant i weld eu penderfyniadau’n arwain at newid go iawn, helpu i ddatblygu diwylliant o gyfranogiad yn gynnar drwy weithio gydag eraill mewn amgylchedd cyngor ysgol neu debyg, a chreu arweinwyr y dyfodol a’r rhai sy’n dwyn gwleidyddion i gyfrif.
Ddeunaw mlynedd ers dyfodiad Cynulliad Cymru, mae gormod o bobl—yn ifanc, yn hen a rywle yn y canol—yn dal i fod yn aneglur ynglŷn â beth yn union y mae’r Cynulliad yn ei wneud, pa gyfrifoldebau penodol a geir yma yng Nghymru a sut y mae’n gweithio ar eu cyfer. Felly, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn rhoi camau ar waith i addysgu’r genhedlaeth nesaf yn well tra’u bod yn dal yn yr ysgol. Fel y gwyddom, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddatblygu cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd. Dyma gyfle gwirioneddol y mae angen bachu ynddo i sefydlu rhaglenni a gweithgarwch a fydd yn galluogi ac yn grymuso ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion hyderus a mwy gweithgar.
Mae’r trydydd diben a amlinellir yn y cwricwlwm ar gyfer bywyd yn tanlinellu pwysigrwydd datblygu dinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n llwyr ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Mae gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth weithgar yn mynd law yn llaw a rhaid iddynt fod yn rhan annatod o addysg pob plentyn yng Nghymru. Y cwestiwn yw: sut y gellir cyflawni hyn? Rwy’n gwybod bod llawer o rôl addysgu gwleidyddiaeth mewn ysgolion wedi lleihau’n draddodiadol o fewn y cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol, sydd bob amser yn orlawn o bethau y mae angen eu cynnwys. Er fy mod yn croesawu’r hyn sy’n digwydd yn rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol, mae’n aml yn digwydd mewn cyfnod cywasgedig o amser ac rwy’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn gyndyn i ychwanegu at ddisgwyliadau llwyth gwaith athrawon gweithgar sydd eisoes yn ysgwyddo baich sylweddol iawn. Yn ychwanegol at yr angen i addysgu dinasyddiaeth ac addysg am ddatganoli fod yn rhan safonol a statudol o’r cwricwlwm, mae’n bwysig ei fod yn cael ei gyflwyno gan bobl sydd nid yn unig yn meddu ar yr arbenigedd a’r profiad, ond pobl sy’n angerddol yn ei gylch hefyd, gan na fydd yn gweithio, unwaith eto, os mai ymarfer ticio blychau ydyw. Mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno gyda brwdfrydedd ac angerdd go iawn er mwyn i’r plant a’r bobl ifanc sy’n ei glywed allu ei werthfawrogi’n iawn a chymryd rhan a gwneud rhywbeth yn sgil hynny.
Yn fy marn i, a barn llawer o bobl eraill y siaradais â hwy, mae angen iddo fod yn rhan statudol o’r cwricwlwm ysgol mewn rhyw ffordd, ond rwy’n credu bod angen trafodaeth fwy, wrth symud ymlaen, ar sut y gall hyn weithio orau’n ymarferol mewn gwirionedd. Efallai gyda rhai agweddau ar hyn a allai fod rôl fwy a mwy ffurfiol i wasanaeth addysg ac allgymorth y Cynulliad? A pha ran y mae cynghorau ysgol yn ei chwarae? Er bod sefydlu cynghorau ysgol yn ofyniad statudol ar hyn o bryd, nid oes sail statudol ar gyfer sut y mae cynghorau ysgol yn gweithredu. Mae fy mhrofiad anecdotaidd personol yn dweud wrthyf nad yw’r hyn sy’n gweithio i un cyngor ysgol yn mynd i weithio i gyngor ysgol arall o reidrwydd. Felly, gallai fod angen peth hyblygrwydd o ran yr ystod o syniadau ac opsiynau ar gyfer annog dinasyddiaeth weithredol a gwerth pleidleisio a chyfranogiad.
Mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol yn creu diwylliant a meithrin normau cymdeithas ddemocrataidd. Mae’n rhaid i ddinasyddiaeth weithredol ddechrau yn yr ysgolion. Yn fy etholaeth i yn unig, deuthum ar draws nifer o enghreifftiau arloesol o sut y rhoddir lle i blant a myfyrwyr gael blas ar wahanol agweddau ar ddinasyddiaeth weithredol. Ceir grŵp ysbrydoledig o fyfyrwyr yn Ysgol Alun yr Wyddgrug sy’n gwirfoddoli fel rhan o ymgyrch ‘Girl Up’ Sefydliad y Cenhedloedd Unedig—ymgyrch sy’n ymgysylltu â menywod ifanc i roi camau ar waith i gynorthwyo merched a menywod ifanc mewn gwledydd sy’n datblygu a’r mannau lle y mae anoddaf, yn aml, i fod yn ferch. Mae’r myfyrwyr yn enghraifft wych o ddinasyddiaeth weithredol, nid yn unig o fewn muriau eu hysgolion eu hunain wrth newid canfyddiadau a gwneud eu rhan i ddileu rhwystrau, ond hefyd y tu hwnt i hynny wrth hyrwyddo achos menywod ifanc ar draws y byd.
Mae gan Ysgol Gynradd Parc Cornist yn y Fflint gynllun llysgenhadon ysgol, gyda thri math o lysgennad: llysgenhadon amgylcheddol sy’n gweithio gydag athrawon i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn ysgolion ecogyfeillgar; llysgenhadon ffordd iach o fyw gyda’r nod o wneud yr ysgol yn lle iachach; a llysgenhadon entrepreneuraidd sy’n gwneud gwaith elusennol a chodi arian. Mae pob llysgennad yn gweithio’n agos gyda staff i ddatblygu newidiadau yn yr ysgol, a dônt at ei gilydd bob hanner tymor i drafod cynnydd. Mae plant a fu’n llysgenhadon yn y gorffennol yn cymryd rhan yn y broses o ddethol llysgenhadon newydd, ac mae’r plant yn cyflwyno’u syniadau a’u gweledigaethau ynglŷn â rolau posibl eraill ar gyfer llysgenhadon.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf, ceir senedd Ysgol Merllyn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod ag aelodau o’r senedd bresennol yn ystod eu hymweliad â’r Senedd. Er bod llawer o ffocws y cyfryngau a gwleidyddiaeth yn canolbwyntio ar yr etholiadau lleol yfory a’r etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin, ffocws yr ysgol gynradd hon ym Magillt fydd y diwrnod mawr ar 14 Gorffennaf pan fydd disgyblion yn pleidleisio yn nhrydydd etholiad cyffredinol yr ysgol. Yn y ddau etholiad blaenorol, y cymhwyster ar gyfer pleidleisio oedd bod yn rhaid i chi fod dros bedair oed ac mewn addysg amser llawn. Ar ôl ymgyrch lwyddiannus, mae’r feithrinfa wedi cael ei rhyddfreinio a bydd yn pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad 2017. Cyn y diwrnod pleidleisio, bydd disgyblion sy’n ymgeiswyr yn cyflwyno areithiau, yn ymgyrchu ac yn cynnal hustyngau. Ar ddiwrnod yr etholiad ei hun, mae disgyblion yn mynd i’r blwch pleidleisio, cyhoeddir arolwg barn wrth i bobl adael y man pleidleisio, ac mae’r broses gyfan yn cael ei goruchwylio gan archwilwyr annibynnol. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan fy hun yn y broses ddemocrataidd, ac rwyf wedi cytuno i wneud sifft gynnar yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod. Yn dilyn yr etholiad, cyhoeddir enw’r prif weinidog a’r dirprwy brif weinidog ac mae’r prif weinidog yn ymweld â’r frenhines—y pennaeth Tracy Jones—a bydd hi’n gofyn iddynt ffurfio llywodraeth. Penodir gweinidogion wedyn, i oruchwylio’r portffolios, sy’n cynnwys chwaraeon, yr amgylchedd ac addysg. Rwyf wedi llwyddo i gael fy nwylo ar gopi o gofnodion cyfarfod cabinet diweddar yn Ysgol Merllyn. Yn ddiweddar, trafododd cynrychiolwyr etholedig gynigion ar gyfer drychau yn nhoiledau’r merched, digwyddiad celf yn ystod tymor yr hydref a pharhau chwaraeon yn ystod gweithgareddau’r bore. Dyma enghraifft ragorol o sut y gall athrawon hwyluso’r cyfle i ddisgyblion gymryd yr awenau yn eu hysgolion mewn ffordd arloesol, hwyliog ac effeithiol. Yn y pen draw, yr hyn y mae’n ei wneud yw ymgorffori pwysigrwydd pleidleisio yn y plant yn ifanc, ar oedran ifanc, a bod yn ddinesydd gweithredol. Pan ddaethant yma ar ymweliad, gofynnais iddynt pam ei bod yn bwysig pleidleisio, gan ddisgwyl iddynt ddweud wrthyf, ‘Am ei fod yn rhoi llais i ni. Gallwn gael ein llais wedi’i glywed. Gallwn ddweud ein barn.’ Ond cododd un bachgen bach ei law a dweud, ‘Oherwydd os nad ydym yn pleidleisio, bydd pobl fel Donald Trump yn cael eu hethol.’
Drwy enghreifftiau a mentrau fel hyn, mae disgyblion yn cael eu trwytho yn egwyddorion democratiaeth a grymuso o oedran ifanc. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfrwng model hwyliog, rhyngweithiol a realistig o wleidyddiaeth go iawn. Mae’n bwysig fod yr enghreifftiau gorau’n rhoi modd i’r plant a’r bobl ifanc weithredu go iawn a gweld canlyniadau hynny drostynt eu hunain. Lle yr hwylusir cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn dinasyddiaeth a gwleidyddiaeth, bydd y ddealltwriaeth o bwysigrwydd bod yn ddinesydd gweithredol yn dilyn yn ddieithriad. Y gobaith yw y bydd y disgyblion hyn yn cael eu hysbrydoli a’u paratoi yn y dyfodol i ddod yn arweinwyr yfory yma yng Nghymru, ledled y DU, ac yn rhyngwladol. Efallai un diwrnod, y bydd prif weinidog ysgol gynradd yn dod yn Brif Weinidog Cymru yma.