9. 9. Dadl Fer: Ysgol Wleidyddiaeth — Grymuso'r Genhedlaeth Nesaf o Ddinasyddion Gweithgar yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:59, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hannah Blythyn am godi’r mater pwysig hwn yn y ddadl y prynhawn yma ac am roi amser i dynnu sylw at yr arfer rhagorol yn ei hetholaeth ei hun, a’i hymrwymiad personol i ddangos arweiniad yn y mater hwn gyda’r ysgolion o’i hetholaeth sy’n ymweld â’r Senedd yma. Ac a gaf fi ychwanegu, yn rhinwedd fy swydd fel yr Aelod Cynulliad dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, fy mod innau hefyd yn werthfawrogol iawn o’r gwasanaeth addysg sy’n cael ei ddarparu gan y Comisiwn, mewn ysgolion yn fy etholaeth ac yn y rhaglen addysg sy’n digwydd yma? Rwyf fi hefyd, dros y blynyddoedd lawer y bûm yma, wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan ansawdd y ddarpariaeth.

Hefyd, Dirprwy Lywydd, mae’n rhoi cyfle i mi fyfyrio am eiliad ar fy nhaith fy hun i’r byd gwleidyddol ac i gyferbynnu’r agweddau gwahanol a welais yn fy ysgol fy hun. Oni bai am yr angerdd y siaradodd Hannah amdano a gefais gan fy niweddar athro hanes a gwleidyddiaeth, Mr Nick Burree, ni fyddwn yma heddiw. Gwelodd rywbeth ynof, ac fe daniodd ynof angerdd ynghylch gwasanaeth cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Mae hyn yn cyferbynnu’n fawr wrth gwrs â phennaeth y chweched dosbarth a ddywedodd wrth fy nhad, druan, pan fynychodd noson rieni, ‘Wel, os nad yw Kirsty’n rhoi’r gorau i’r nonsens gwleidyddiaeth yma, nid yw’n mynd i gyflawni dim mewn bywyd.’ Pan gefais fy ethol gyntaf i’r Siambr ym 1999, o fewn ychydig ddyddiau, pan welais amlen â’r llawysgrifen honno, gwyddwn yn syth beth ydoedd—roeddwn wedi’i gweld mewn inc coch ar ddigon o draethodau Saesneg i wybod—ac roeddwn yn falch iawn o wybod bod Miss Charles, fy athrawes Saesneg, er gwaethaf ei sgeptigiaeth, wedi anfon nodyn i fy llongyfarch ar gael fy ethol.

Mae cynnwys pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn bwysig iddynt ac i’r gymdeithas gyfan. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer dyfodol democratiaeth fywiog. Mae ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc yn cael ei ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac mae gwrando ar, a buddsoddi mewn plant a phobl ifanc yn ganolog i ddull Llywodraeth Cymru o weithredu. Mae plant a phobl ifanc yn, a rhaid eu galluogi i barhau i fod yn ddinasyddion llawn a gweithgar yng Nghymru sydd â chyfraniad gwerthfawr i’w wneud i bob un o’n cymunedau. Mae’r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol yn cefnogi addysgu dinasyddiaeth ac yn darparu cyfleoedd sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel dinasyddion byd-eang. Yn benodol, mae dinasyddiaeth yn cael ei chynnwys yn rhan o addysg bersonol a chymdeithasol, fel y clywsom yn awr, ac addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang—rhywbeth, efallai, y gallai rhai o’n cyd-Aelodau UKIP ei fwynhau, ar ôl gwrando ar y ddadl yn ddiweddar ynglŷn â’n gallu i gyfrannu at leihau newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn rhan allweddol o’r fagloriaeth newydd a mwy trylwyr ar gyfer Cymru a gyflwynwyd yn 2015.

Mae addysg bersonol a chymdeithasol yn rhan o’r cwricwlwm sylfaenol statudol ar gyfer pob disgybl saith i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir, a chaiff materion yn ymwneud â dinasyddiaeth eu cyflwyno gan ysgolion drwy thema dinasyddiaeth weithgar y fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am wleidyddiaeth, cyflogaeth a’u hawliau mewn cymdeithas ddemocrataidd, sy’n adlewyrchu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Caiff dysgwyr eu hannog i fod yn aelodau o’u cymuned a gellir eu helpu i chwarae rhan ystyrlon a gweithgar ynddynt. Ar ben hynny, mae addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr ym mhob cyfnod o’u haddysg o effaith eu dewisiadau ar bobl eraill, yr economi a’r amgylchedd, a’i nod yw herio dysgwyr i weld sut y gallant gyfrannu at fywydau pobl eraill. Nid yn unig y mae’n rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, mae’n rhan annatod o’r cyfnod sylfaen ar gyfer ein disgyblion ieuengaf.

Mae Her Dinasyddiaeth Fyd-eang bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau, priodoleddau a gwybodaeth a fydd yn creu dinasyddion byd-eang gyda dealltwriaeth o’r byd a lle Cymru o’i fewn. Ynghyd â’r wybodaeth a’r gwerthoedd y maent yn eu hennill o ddysgu am faterion byd-eang a ffactorau gwleidyddol, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn rhoi’r gallu a’r hyder iddynt fod yn rhagweithiol wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd.

Wrth edrych tua’r dyfodol, yn ei adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, nododd yr Athro Donaldson sut un fyddai unigolyn ifanc llwyddiannus sy’n gadael addysg statudol. Mae ei adroddiad yn nodi pedwar diben ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru, ac un ohonynt yw sicrhau bod dysgwyr, ac rwy’n dyfynnu,

‘yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd... yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd’.

Mae hyn yn gosod dinasyddiaeth wrth wraidd y cwricwlwm.

Mae cynllun y cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu gan rwydwaith o ysgolion arloesol ac arbenigwyr eraill. Maent yn gweithio gyda’i gilydd fel rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion i gyd-gynllunio, ymgynghori, darparu gwybodaeth, cefnogi ac adeiladu galluoedd mewn ysgolion ledled Cymru, gan weithio mewn partneriaeth Cymru gyfan gyda Llywodraeth Cymru, Estyn, addysg uwch, busnes a phartneriaid allweddol eraill. Sefydlwyd y gweithgorau ym mis Ionawr eleni, ac mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad lefel uchel. Mae’r grwpiau hyn yn gweithio ar ddatblygiad mwy manwl pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan gynnwys y dyniaethau, a dyna ble y bydd gwleidyddiaeth yn cael ei gynnwys. Yn ystod y broses ddatblygu, bydd yr ysgolion arloesol yn gwirio ac yn adolygu modelau sy’n dod i’r amlwg er mwyn profi a rhannu syniadau a chasglu adborth. Hefyd, bydd cyfleoedd mwy ffurfiol i randdeiliaid allweddol roi sylwadau ar argymhellion mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd drwy gyfrwng arolygon neu ymgynghoriad ar bwyntiau strategol yn ystod ei ddatblygiad.

Rydym yn glir y bydd cyfranogiad plant a phobl ifanc yn parhau’n allweddol yn y broses o ddatblygu a chyflawni ein deddfwriaeth a’n polisïau a’n rhaglenni. Nid yw ond yn iawn ein bod yn parhau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael llais gweithredol yng ngwaith y Llywodraeth hon. Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod hawl gan bob plentyn ac unigolyn ifanc i gael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n gwbl ymrwymedig i warchod yr hawl honno.

Rydym hefyd yn cyllido model cenedlaethol, Cymru Ifanc, i alluogi’r lleisiau hyn i gael eu clywed. Menter gydweithredol yw Cymru Ifanc sy’n dwyn ynghyd chwech o sefydliadau plant ac ieuenctid ar draws Cymru, ac mae’r prif bartner yn gorff ymbarél i fudiadau plant yn y sector gwirfoddol ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hawliau plant. Mae Cymru Ifanc yn estyn allan at filoedd o blant a phobl ifanc ar draws Cymru er mwyn eu galluogi i leisio’u barn a dylanwadu ar waith Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad y modelau cyfranogi arloesol hyn a chyfleoedd cenedlaethol i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn unol ag erthygl 12 o’r CCUHP, yr hawl i fynegi eu barn.

Yn anffodus, nid oes gan y Cynulliad hwn gymhwysedd deddfwriaethol ar hyn o bryd mewn perthynas â’r etholfraint etholiadol, ac ni all newid yr oedran pleidleisio. Fodd bynnag, rwy’n falch fod y Papur Gwyn diweddar ar ddiwygio llywodraeth leol yn cynnig diwygiadau i etholiadau, gan gynnwys estyn yr etholfraint bleidleisio i rai 16 a 17 oed. Gobeithio y bydd hyn, ynghyd â diwygiadau eraill i wella prosesau cofrestru a phleidleisio etholiadol, yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn etholiadau a democratiaeth yn ehangach.

Roedd y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 drafft yn cynnwys argymhellion i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau i annog y cyhoedd i gymryd rhan er mwyn galluogi pobl leol i ymgysylltu â’r prosesau penderfynu ac i gael eu safbwyntiau wedi’u hystyried. Ein bwriad yw parhau i ddilyn y polisi hwn, ac i gynnwys ynddo yr angen i alluogi pobl ifanc i chwarae rhan lawn yn y broses honno. Mae gan y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru gynghorau ieuenctid neu gabinetau ieuenctid, ac mae gan rai feiri ieuenctid hefyd. Mae cabinetau ieuenctid yn offeryn gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â phobl ifanc yn lleol, a’u hannog a’u grymuso i gymryd rhan weithredol mewn prosesau democrataidd. Mae’n hanfodol i genedl iach, ddemocrataidd fod pawb yn ymwybodol o’u hawliau cyfreithiol ac yn gallu eu harfer. Soniodd Hannah hefyd am rôl bwysig cynghorau ysgol, i’w gwneud hi’n bosibl i leisiau plant gael eu clywed o fewn y sefydliad lle y cânt eu haddysgu, ac unwaith eto, maent yn rhoi cyfle gwerthfawr i blant a phobl ifanc gael eu trwytho yn y gallu i lunio eu dyfodol, dylanwadu a pherswadio ac ymgyrchu, a’r enghreifftiau a roddodd Hannah yw rhai o’r goreuon y gwn amdanynt yn y wlad.

Hefyd, yn ein siarter gwaith ieuenctid, rydym wedi dweud bod rhaid i wasanaethau ieuenctid ledled Cymru gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Unwaith eto, mae gennym enghreifftiau gwych o sefydliadau ieuenctid yn rhoi sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i bobl ifanc allu dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau o fewn y sefydliad ac yn eu hardal leol. Unwaith eto, mae hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eu hargymhelliad y dylai pob Llywodraeth gael fforwm ar gyfer cyfranogiad plant.

Dirprwy Lywydd, unwaith eto hoffwn ddiolch i Hannah am gyflwyno’r pwnc hwn. Rwy’n siŵr y byddech am ymuno â mi i annog pob ysgol i gymryd rhan yn y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, naill ai gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Lywodraeth Cymru. Hannah, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno’r ddadl hon.