Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 9 Mai 2017.
Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn rhan o'r chwyldro codio, ac mae'n bwysig bod ein pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau hyn. Ond, wrth gwrs, un o'r problemau sydd ganddyn nhw yw gallu gwneud gwaith cartref o ran codio, gan fod mynediad annigonol at gynllun band eang cyflym Cyflymu Cymru. Byddwch yn ymwybodol eich bod wedi gwneud ymrwymiad eglur yn eich maniffesto Llafur ar gyfer y Cynlluniad yn 2011, a wnaeth addewid i gyflwyno band eang i bob safle preswyl a busnes erbyn 2015. Torrwyd yr addewid hwnnw, do? Onid ydych chi’n credu ei bod hi’n hen bryd i chi gyflawni’r addewid hwnnw, a'r lleill yn y maniffesto na wnaethoch chi eu cadw?