1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 9 Mai 2017.
Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethoch chi lansio eich ymgyrch etholiad ddoe, gan ddarbwyllo eich hun i ynganu enw eich arweinydd. Ai Jeremy Corbyn yw eich ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog o hyd?
Ie.
Prif Weinidog, ddoe, cawsoch gyfle i roi Cymru ar y dirwedd wleidyddol, ond, yn hytrach—rwy'n siŵr y bydd Theresa May yn rhoi ochenaid enfawr o ryddhad—mae tri o'ch prif addewidion wedi'u datganoli, ac roedden nhw’n addewidion a wnaed cyn yr etholiad y llynedd. A gallai pedwerydd addewid, ar blismona, fod wedi ei ddatganoli, pe na byddai ASau Llafur wedi cael eu ffordd eu hunain. Nawr, bydd y blynyddoedd nesaf yn diffinio dyfodol Cymru a'r DU. Dylech chi fod wedi gwneud gofynion Cymreig eglur, i roi llais i Gymru, i amddiffyn Cymru, ond fe fethoch chi â gwneud hynny. Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ASau Plaid Cymru nawr—[Torri ar draws.]
Iawn. Ymdawelwch. Gadewch i’r cwestiwn barhau.
Bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar ASau Plaid Cymru bellach i gyflwyno orau sut y gallwn ni amddiffyn Cymru. Pam wnaethoch chi ddewis gadael i Theresa May wneud fel y myn?
Dydyn nhw ddim yn hoffi'r slogan 'Sefyll Cornel Cymru', ydyn nhw? Mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi eu sylwi. A diolchaf i arweinydd Plaid Cymru am ailadrodd ein haddewidion—addewidion yr ydym ni yn Llafur Cymru yn falch ohonynt—a bydd hi’n canfod mwy i ddod yn y maniffesto a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Addewidion a wnaed gennych chi cyn yr etholiad diwethaf oedden nhw. Dylech chi fod wedi cyflawni rhai o'r addewidion hynny eisoes. Prif Weinidog, y gwir yw eich bod wedi dileu eich arweinydd o'r ymgyrch hon. Rydych chi’n sôn llawer am undod, ond rwy’n credu eich bod chi wedi ei ddileu o'r ymgyrch hon gan eich bod chi’n gwybod na all Llafur ennill. Nawr, rydych chi eisiau i’r etholiad fod am eich hanes chi, am hanes Llywodraeth Cymru, ac rydym ni i gyd yn gwybod pam yr ydych chi’n gwneud hynny, a dyna pam mae mwyafrif eich addewidion etholiad sydd wedi'u hailgylchu yn rhan o gymhwysedd datganoledig. Felly, wedyn, os byddwch chi’n colli’r etholiad hwn yng Nghymru, fel y mae llawer o arolygon yn awgrymu y gallech chi ei wneud, a yw hynny'n golygu y bydd hwn yn ddyfarniad arnoch chi? Ai eich bai chi fydd hynny? Ac os mai chi fydd arweinydd cyntaf y Blaid Lafur i golli Cymru, y tro cyntaf ers 100 mlynedd, a fyddwch chi’n fodlon cymryd cyfrifoldeb, neu a allwn ni ddisgwyl i chi, unwaith eto, roi’r bai ar rywun arall?
Wel, cawsom ni hyn i gyd y llynedd. Fe welsom ni’r canlyniad. Mae pobl yn ymddiried ynom ni i sefyll dros Gymru. Gwelsom ganlyniadau Plaid Cymru yn yr etholiadau lleol: ychydig iawn o gynnydd, tua’n ôl yng Nghaerffili. Dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon—dim ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon—roedd yr Aelod dros Ganol De Cymru yn honni mai ef fyddai arweinydd cyngor Caerdydd, ac enillwyd tair sedd ganddynt. Tair sedd. Mae bellach yn honni—nid yw yma, rwy’n gwybod, ac rwy'n cydnabod hynny—bod Gorllewin Caerdydd yn fuddugoliaeth wych i Blaid Cymru. Wel, gyda thair sedd a Llafur â 12, rwy'n fwy na pharod i ildio’r fuddugoliaeth honno iddyn nhw os mai dyna yw eu diffiniad ohono. Mae gennym etholiad i’w hymladd. Byddwn ni i gyd, fel pleidiau, yn cyflwyno ein polisïau i bobl Cymru, ond, yn anad dim arall, byddwn yn sefyll cornel Cymru.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Yr wythnos diwethaf yn y newyddion, Prif Weinidog, codwyd pryderon difrifol am adroddiad Tawel Fan a'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y system adrodd ynghylch ‘trychineb’ Tawel Fan—y byddwn i’n ei alw—lle’r oedd pobl, fel y soniodd yr adroddiad blaenorol, yn cael eu trin fel anifeiliaid, a datgeliadau syfrdanol eraill. Roedd teuluoedd yn dangos pryder gwirioneddol dros gynnydd y wybodaeth sy'n dod yn ôl iddyn nhw er mwyn bodloni eu hunain ynghylch y ffordd y gofalwyd am eu hanwyliaid. Bu galwad i’r adroddiad marwolaethau gael ei gyhoeddi gan fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi nodi y gallai rhai marwolaethau cynamserol fod yn gysylltiedig â'r lefelau o ofal yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn wir, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd wedi galw i’r adroddiad hwn fod ar gael gan ei fod wedi ei gwblhau. A wnewch chi, fel Llywodraeth, ymrwymo i roi yr adroddiad hwnnw ar gael o ystyried bod Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ac mai chi sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd?
Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i hynny ar y sail ein bod ni eisiau bod mor agored a thryloyw â phosibl. Dyna fyddai pobl yn ei ddisgwyl, a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyhoeddi’r adroddiad hwnnw os yw hynny'n briodol.
Wel, mae pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn credu ei fod yn briodol, ac, i ddefnyddio ei eiriau, fel y
Gallai atal yr arfer hwn mewn mannau eraill.
Rydym ni’n gwybod bod yr adroddiad hwnnw ar gael; mae wedi ei gwblhau. Rydych chi’n gwario £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhedeg Betsi Cadwaladr gan ei fod yn destun mesurau arbennig, felly chi sy’n gyfrifol. Pan fydd teuluoedd a chlinigwyr pryderus eisiau gweld y data hyn fel y gallant ddeall yn llawn yr hyn a ddigwyddodd yn yr uned honno, pam ar y ddaear nad ydych chi’n caniatáu i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi, gan y byddai'n rhoi llawer iawn o gysur i deuluoedd ac i'r unigolion sydd wedi clywed straeon mor erchyll am y gofal yn yr uned honno? Yn benodol, tynnaf eich sylw at y ffaith, fel y dywedwyd eisoes, bod cleifion yn cael eu trin fel anifeiliaid.
Wel, mae’r adroddiad, fel y deallaf, gyda'r goruchwyliwr annibynnol ac, ar yr adeg iawn, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyhoeddi’r adroddiad. Mae'n bwysig bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i'r rhai sydd wedi gweld eu perthnasau’n dioddef ac i'r rhai sydd wedi dioddef fel y gellir dysgu gwersi.
Rwy’n siomedig iawn nad ydych chi’n fodlon rhoi arwyddion pendant o bryd y bydd yr adroddiad hwnnw ar gael. Fel y dywedais, nid gwleidydd yw hwn sy’n dweud y dylai'r adroddiad hwn fod ar gael; pennaeth y cyngor iechyd cymuned yn y gogledd yw hwn, ynghyd ag aelodau'r teuluoedd a chlinigwyr. Felly, byddwn yn ddiolchgar, os nad ydych mewn sefyllfa i roi syniad o'r amserlen heddiw gan fy mod i newydd ofyn y cwestiwn hwnnw i chi, pe byddech chi’n dweud y gwnewch chi ysgrifennu ataf er mwyn i mi gael golwg ar yr amserlen yr ydych chi fel Llywodraeth yn gweithio’n unol â hi. Rwy'n credu mai dyna'r lleiaf y gall rhywun ei ddisgwyl o ystyried y pryderon a godwyd yr wythnos diwethaf.
Ond, hefyd, rwyf yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn fodlon â lefel nifer y gwelyau yn y gogledd i gleifion iechyd meddwl, gan ei bod wedi dod i'n sylw bod 'system soffa' ar waith yn y gogledd, sy’n golygu, os nad oes gwely ar gael mewn adran iechyd meddwl, bod pobl yn cael eu rhoi ar soffas i geisio cyrraedd y targedau. Ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhoi pobl agored i niwed mewn sefyllfa lle y gellid camfanteisio arnynt. Sut gall unrhyw un deimlo bod 'system soffa' yn bodloni’r gofyniad ar gyfer darparu capasiti gwelyau diogel yn ardal bwrdd iechyd y gogledd?
Wel, os oes gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig dystiolaeth o system soffa, fel y mae’n ei disgrifio, byddwn yn falch o weld y dystiolaeth honno. Ac mi wnaf, wrth gwrs, ysgrifennu ato am yr hyn y mae wedi gofyn amdano, gan roi rhagor o wybodaeth iddo am yr amserlen o ran unrhyw gyhoeddiad o'r adroddiad.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sefyll yn yr etholiad San Steffan hwn ar sail polisi o gynyddu treth incwm i bobl sy'n ennill cyn lleied ag £11,000 y flwyddyn, ac mae'n debyg bod y Blaid Lafur yn genedlaethol yn mynd i sefyll ar bolisi o gynyddu'r gyfradd uchaf o dreth incwm o 45c i 50c. A yw'n cytuno â Changhellor yr Wrthblaid fod gennym ni lawer i'w ddysgu gan Karl Marx a 'Das Kapital', ac a yw'n credu bod codi’r gyfradd uchaf o dreth yn debygol o godi mwy o arian?
Ydw, mi ydwyf. Rwy'n credu y bydd codi’r gyfradd uchaf o dreth yn codi mwy o arian. Nid wyf yn credu bod gennym ni lawer i'w ddysgu gan 'Das Kapital'; i’r rhai sydd wedi ei ddarllen ac wedi ceisio deall yr hyn y mae'n ei ddweud, nid yw'n ymarfer hawdd. Byddwn yn sefyll ar lwyfan o sicrhau bod y rhai sy'n gallu fforddio talu ychydig yn fwy yn talu ychydig yn fwy er mwyn sicrhau bod gennym ni’r gwasanaethau cyhoeddus y byddai pobl yn eu disgwyl.
Felly, a ddylwn i gymryd o’r ymateb yna mai polisi Llywodraeth Cymru erbyn hyn, pan fydd pwerau treth yn cael eu datganoli i ni yn y Cynulliad hwn, yw dilyn maniffesto'r Blaid Lafur yn genedlaethol o gynyddu cyfraddau uchaf treth yng Nghymru, oherwydd y dystiolaeth o'r tro diwethaf y digwyddodd hyn yn 2013 oedd bod gostwng y gyfradd dreth o 50c i’r 45c presennol wedi arwain mewn gwirionedd at gynnydd enfawr mewn refeniw o tua £8 biliwn? Felly, mae'n ymddangos braidd yn wrthgynhyrchiol sefyll ar sail polisi sy'n cynyddu cyfraddau treth ac yn lleihau refeniw mewn gwirionedd, ac yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol.
Cyn belled ag y mae cyfradd treth incwm Cymru yn y cwestiwn, rydym ni eisoes wedi addo na fyddwn yn cynyddu cyfradd y dreth incwm yn ystod y Cynulliad hwn.
Rwyf yn falch iawn o glywed hynny, ond a yw hynny'n golygu bod y Prif Weinidog yn derbyn nad yw codi cyfraddau o reidrwydd yn arwain at gynyddu refeniw yn cynnig cyfle gwych i Gymru i wneud ein gwlad yn rhyw fath o hafan treth o fewn y Deyrnas Unedig, a fyddai'n ein helpu ni i wrthdroi tueddiadau economaidd degawdau lawer iawn yng Nghymru ac yn rhoi mantais sylweddol i ni, yn yr un ffordd ag y mae de Iwerddon wedi defnyddio cyfraddau gwahaniaethol o dreth gorfforaeth i roi hwb i’r economi teigr Celtaidd, a oedd yn llwyddiannus iawn yn y wlad honno—.
Mae'n codi pwynt diddorol am y dreth gorfforaeth; nid oes unrhyw gynigion i ddatganoli treth gorfforaeth. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw bod hafanau treth yn tueddu i fod â gwasanaethau cyhoeddus gwael iawn; yn arbennig, nid oes ganddynt wasanaethau iechyd gan na allant godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus hynny. Felly, nid wyf yn credu mai’r dyfodol i Gymru yw bod yn rhyw fath o replica o'r Ynysoedd Virgin Prydeinig, neu replica, o reidrwydd, o Ynysoedd y Sianel. Mae gennym ni fodel gwahanol iawn; nid oes gan Ynysoedd y Sianel, er enghraifft, wasanaeth iechyd wedi’i seilio ar y model y byddem ni’n ei ddeall, ond mae cael y cydbwysedd cywir rhwng refeniw a gwariant ar wasanaethau cyhoeddus i lefel y byddai pobl yn ei disgwyl, wrth gwrs, yn fater i Lywodraethau ei gydbwyso.