Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 9 Mai 2017.
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn sefyll yn yr etholiad San Steffan hwn ar sail polisi o gynyddu treth incwm i bobl sy'n ennill cyn lleied ag £11,000 y flwyddyn, ac mae'n debyg bod y Blaid Lafur yn genedlaethol yn mynd i sefyll ar bolisi o gynyddu'r gyfradd uchaf o dreth incwm o 45c i 50c. A yw'n cytuno â Changhellor yr Wrthblaid fod gennym ni lawer i'w ddysgu gan Karl Marx a 'Das Kapital', ac a yw'n credu bod codi’r gyfradd uchaf o dreth yn debygol o godi mwy o arian?