Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 9 Mai 2017.
Felly, a ddylwn i gymryd o’r ymateb yna mai polisi Llywodraeth Cymru erbyn hyn, pan fydd pwerau treth yn cael eu datganoli i ni yn y Cynulliad hwn, yw dilyn maniffesto'r Blaid Lafur yn genedlaethol o gynyddu cyfraddau uchaf treth yng Nghymru, oherwydd y dystiolaeth o'r tro diwethaf y digwyddodd hyn yn 2013 oedd bod gostwng y gyfradd dreth o 50c i’r 45c presennol wedi arwain mewn gwirionedd at gynnydd enfawr mewn refeniw o tua £8 biliwn? Felly, mae'n ymddangos braidd yn wrthgynhyrchiol sefyll ar sail polisi sy'n cynyddu cyfraddau treth ac yn lleihau refeniw mewn gwirionedd, ac yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol.