Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 9 Mai 2017.
Rwyf yn falch iawn o glywed hynny, ond a yw hynny'n golygu bod y Prif Weinidog yn derbyn nad yw codi cyfraddau o reidrwydd yn arwain at gynyddu refeniw yn cynnig cyfle gwych i Gymru i wneud ein gwlad yn rhyw fath o hafan treth o fewn y Deyrnas Unedig, a fyddai'n ein helpu ni i wrthdroi tueddiadau economaidd degawdau lawer iawn yng Nghymru ac yn rhoi mantais sylweddol i ni, yn yr un ffordd ag y mae de Iwerddon wedi defnyddio cyfraddau gwahaniaethol o dreth gorfforaeth i roi hwb i’r economi teigr Celtaidd, a oedd yn llwyddiannus iawn yn y wlad honno—.