Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd yn hanfodol, a nodwyd ers sawl mis bellach y bydd llywodraethu marchnad fewnol y DU yn y dyfodol yn cynnig awgrym o ddyfodol cyfansoddiad y wlad hon. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa gynnydd y mae wedi ei wneud o ran darbwyllo ei gymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gytuno y dylai marchnad fewnol y DU yn y dyfodol gael ei llywodraethu ar y cyd gan wledydd y DU, ac na ddylai gael ei gorfodi arnom gan Whitehall?