Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor er mwyn helpu i lywio ei waith, gan gynnwys y rhai a roddodd o’u hamser i fynd i’n trafodaethau grŵp ffocws.
Fe achosodd Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn San Steffan yn 2015, gryn drafodaeth a dadlau brwd. Wrth gynnal ein gwaith craffu ar Fil yr Undebau Llafur Llywodraeth Cymru (Cymru), ymgynghorwyd yn eang â rhanddeiliaid a gofyn am amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys rhai gan sefydliadau oedd yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn gyhoeddus. Roedd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar brofi honiad Llywodraeth Cymru y byddai'r darpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur y mae’r Bil yn ceisio eu datgymhwyso yn cael effaith andwyol ar y bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, ac ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn effeithiol.
Rydym yn cael ein hunain yn y sefyllfa anarferol heddiw o gyflwyno adroddiad sy'n cynnwys un argymhelliad—bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae’r argymhelliad hwn, a gefnogir gan saith o bob wyth o aelodau’r pwyllgor, yn seiliedig ar y gefnogaeth lethol i'r Bil yn y dystiolaeth a gawsom. Mae'n anarferol i bwyllgor beidio â bod yn argymell gwelliannau yn ystod proses graffu Cyfnod 1, ond dyna fel y mae hi.
Gan siarad yn dechnegol, Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yn syml. Mae'n datgymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf 2016 i awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'n gwneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud yn syml ac, yn ein barn ni, yn effeithiol. Mae'r Bil ei hun yn Fil byr o dair adran. Ond rydym yn gwybod nad yw hyd y Bil yn unrhyw arwydd o’i bwysigrwydd, ac nid yw’r Bil hwn yn eithriad. I'r gwrthwyneb, heb y Bil hwn, clywsom y byddai’r trothwy pleidleisio o 40 y cant, sydd eisoes mewn grym yng Nghymru, ynghyd â'r newidiadau yn y dyfodol i ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ac amser cyfleuster, yn fygythiad gwirioneddol all ddigwydd yn fuan i bartneriaeth gymdeithasol.
Y bartneriaeth gymdeithasol hon, meddai’r ymatebwyr wrthym, sy’n hanfodol i reoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb heriau ariannol parhaus a newid gweddnewidiol parhaus. Y bartneriaeth gymdeithasol hon, meddai’r GIG yng Nghymru wrthym, oedd wedi cefnogi datblygiad atebion effeithiol ac o fudd i'r ddwy ochr i heriau sylweddol yr oedd y gwasanaeth wedi mynd i'r afael â nhw. Y bartneriaeth gymdeithasol hon meddai llywodraeth leol wrthym, oedd wedi chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod parhad y gwasanaeth wedi bod wrth wraidd rhai penderfyniadau anodd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n syndod, felly, bod y sefydliadau hynny sy'n uniongyrchol gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'n cymunedau yn awyddus i’r bartneriaeth gymdeithasol gael ei chadw. Maent yn credu'n gryf bod angen y Bil i sicrhau hyn.
Dirprwy Lywydd, byddaf yn siarad yn fyr am ddarpariaethau sylweddol y Bil. Roedd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth ar gyfer datgymhwyso'r cyfyngiadau yn Neddf 2016 ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres . Adroddodd ymatebwyr fod y trefniadau didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres wedi'u hen sefydlu, yn effeithlon, o fudd i bob parti ac ar gost isel i gyflogwyr. Ar y gorau, mae cyfyngiadau yn debygol o fod yn anghyfleus i undebau llafur a chyflogwyr. Ar y gwaethaf, gallent arwain at dynnu'n ôl didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres, a allai yn y pen draw wanhau dwysedd aelodaeth undebau a llesteirio gallu'r undebau i weithredu'n effeithiol fel partneriaid cymdeithasol. Mae'r cyfyngiadau yn dethol tanysgrifiadau undeb llafur o daliadau eraill a wneir gan gyflogwyr ar ran y gweithwyr. Maent yn ddiangen, yn ddiwarant ac ni welwn unrhyw reswm dilys i'w cymhwyso i awdurdodau datganoledig yng Nghymru.
Clywsom fod mynediad at amser cyfleuster yn hanfodol i sicrhau bod cynrychiolwyr undebau llafur nid yn unig yn gallu cyflawni eu dyletswyddau o ran cynrychiolaeth unigol a bargeinio ar y cyd, ond i gymryd rhan yn yr agenda gwella gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Clywsom hefyd dystiolaeth gymhellol am fanteision amser cyfleuster a'r arbedion cost posibl cysylltiedig. Mae hyn yn ein gadael heb unrhyw amheuaeth bod amser cyfleuster yn fuddsoddiad doeth mewn gwasanaethau cyhoeddus a dylid ei ystyried fel y cyfryw. Os yw undebau llafur i barhau i weithredu'n effeithiol fel partneriaid cymdeithasol a chyfrannu at yr agenda wella, yna mae'n rhaid diogelu’r trefniadau presennol ar gyfer amser cyfleuster.
Mae'n amlwg fod cydbwysedd rhwng partneriaid yn dyngedfennol i unrhyw bartneriaeth lwyddiannus rhwng partneriaid. Bydd trothwy pleidleisio o 40 y cant yn ddi-os yn tanseilio gallu'r undebau llafur i ymgysylltu â chyflogwyr fel partneriaid cyfartal. Mae’r hawl i ymgymryd â gweithredu diwydiannol yn elfen bwysig yn yr egwyddor o fargeinio ar y cyd. Heb yr hawl hon, neu, yn achos Deddf 2016, lle mae’r hawl hon yn cael ei llesteirio gan gyfrwng y trothwy pleidleisio ychwanegol, bydd yn llawer mwy anodd i undebau negodi ar ran eu haelodau. Nid ydym yn credu bod hyn er budd gorau gweithio mewn partneriaeth. Clywsom am y perygl gwirioneddol y bydd y trothwy ychwanegol yn arwain at densiynau diwydiannol uwch a gallai gynyddu'r tebygolrwydd a hyd y gweithredu diwydiannol yn anfwriadol.
Gan symud ymlaen at weithwyr asiantaeth, Dirprwy Lywydd, clywsom y byddai symudiad gan Lywodraeth y DU i godi'r gwaharddiad presennol ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflenwi yn ystod gweithredu diwydiannol yn cael effaith debyg ar y bartneriaeth gymdeithasol i’r gofyniad trothwy pleidleisio 40 y cant. Ac felly, rydym yn croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i ddiwygio'r Bil i sicrhau bod y gwaharddiad yn parhau, waeth beth yw canlyniad ystyriaethau Llywodraeth y DU ar y mater hwn.
I gloi, nid ydym mewn unrhyw amheuaeth y bydd y darpariaethau perthnasol yn Neddf 2016, i gyd, i raddau amrywiol, yn effeithio’n andwyol ar y bartneriaeth gymdeithasol ac, yn ei dro, ar ddarpariaeth barhaus a gwella gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. I gydnabod hyn, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac rydym yn argymell bod yr Aelodau yma heddiw yn gwneud yr un peth.