Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 9 Mai 2017.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion Bil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rydym ni hefyd yn croesawu’r awydd i gyflwyno gwelliant ynglŷn â’r defnydd o weithwyr asiantaeth, er yn cytuno y byddai, efallai, wedi bod yn well i’w gynnwys o’r cychwyn, fel mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei ddweud.
Bydd y Bil yma, wrth gwrs, yn datgymhwyso agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016 y Deyrnas Unedig, ac fe ddaeth y Ddeddf honno i rym ym mis Mawrth eleni gan danseilio hawliau gweithwyr. Mae unrhyw ymgais i ddiogelu rhai o’r hawliau hynny i’w groesawu, ond yn y pen draw, mae angen i ni yng Nghymru gael y grymoedd llawn i amddiffyn hawliau gweithwyr ac i ddatblygu ffordd o gydweithio teg rhwng cyflogwyr a gweithwyr—ffordd a fyddai yn adlewyrchu ein gwerthoedd ni fel cenedl.
Mae Deddf Undebau Llafur 2016 yn ymosodiad diangen ar hawliau gweithwyr. Fe fydd hi’n llawer anoddach i weithwyr gael codiad cyflog, i atal colli swyddi neu i negodi gwell amodau gwaith yn y man gwaith yn sgil y Ddeddf yma. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n anoddach i undebau wneud eu gwaith o ddydd i ddydd yn delio efo problemau yn y man gwaith cyn iddyn nhw ddatblygu yn anghydfod, ac mae’r Ddeddf yn mygu protest, ac mae hynny yn mygu rhan anhepgorol o’n democratiaeth ni. Mae’n anodd osgoi dod i’r casgliad bod y Llywodraeth Dorïaidd yn benderfynol o wanhau undebau llafur er mwyn gallu ymosod ar hawliau, tâl ac amodau gwaith pob gweithiwr.
Mae bargeinio rhwng y cyflogwyr a’r cyflogedig yn gweithio, oherwydd bod gan y ddwy ochr rym. Dyna pam fod y mwyafrif helaeth o drafodaethau’n diweddu nid mewn streic, ond mewn datrysiad. Mae agwedd fel honno’n helpu aelodau undebau a rhai sydd ddim yn aelodau yn yr un modd. Mae agwedd fel honno’n helpu cynnal gwasanaethau cyhoeddus. Mae trin gweithwyr efo parch ac urddas yn arwain at weithlu sydd yn fodlon rhoi’r cyhoedd yn gyntaf, o’r cleifion yn ein hysbytai a’r rhai sy’n derbyn gofal i’r gwasanaeth casglu sbwriel ac ailgylchu. Mae trin gweithwyr efo parch yn gwneud synnwyr busnes. Ond mae Deddf Undebau Llafur 2016 wedi symud y grym ac mae’r glorian yn pwyso’n llawer rhy drwm i un cyfeiriad.
Dyma ymgais ddiweddaraf y Torïaid yn eu hanes hir o ymosod ar hawliau gweithwyr—hawliau sydd mewn hyd yn oed mwy o berig yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dros yr 1980au a’r 1990au cynnar, pasiwyd nifer o Ddeddfau a oedd wedi’u llunio gan y Llywodraeth Dorïaidd yn ymosod ar undebau llafur a hawliau gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf Cyflogaeth 1980, Deddf Cyflogaeth 1982 a Deddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993. Fe gafodd Llafur, rhwng 1997 a 2010, gyfle i ddadwneud gwaith y Torïaid, ond ni chymerwyd y cyfle. Yn ei maniffesto ar gyfer etholaeth gyffredinol 1997, dywedodd y Blaid Lafur y byddai elfennau allweddol deddfwriaeth undebau llafur y 1980au yn parhau. Felly, mae’r gwaharddiadau ar bicedi a’r mwyafrif o gyfyngiadau balot yn parhau i sefyll. Mae’n wir dweud y gwnaed ymdrech, ond ymdrech dila i gryfhau hawliau drwy’r Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 a’r Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 2004. Ond o ran nifer yr hawliau pwysig a gafodd eu tynnu oddi ar weithwyr yn ystod yr 1980au a’r 1990au cynnar, pan gafodd Lafur y cyfle i’w hadfer, roedd yr ymdrech yn dila, a dweud y lleiaf. Ni wnaed ymdrech wirioneddol i rowlio’r niwed yn ôl. Ni wnaed ymdrech wirioneddol i amddiffyn gweithwyr rhag drygioni’r Torïaid.
Mae Llywodraeth Cymru’n gorfod rhuthro’r Bil yma trwodd rŵan. Unwaith y daw Deddf Cymru i rym, fe fydd materion cysylltiadau diwydiannol yn cael eu cadw yn benodol yn San Steffan. Bydd ymgais Llywodraeth Cymru i ddefnyddio manteision y pwerau a roddwyd yn cael eu dileu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dyna wendid sylfaenol Deddf Cymru a pham fod angen Deddf arall ar fyrder. Cymhelliant gwleidyddol sydd ar waith yn y fan hyn. Mae’r Torïaid yn San Steffan yn ceisio sicrhau polisi cysylltiadau diwydiannol unffurf a chreulon ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, gan ddiystyru cynhwysedd datganoledig y Cynulliad fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd, gan ddiystyru’r ffaith nad gwledydd unffurf ydym ni. Hynny yw, mae yna ‘power grab’ yn mynd ymlaen.
Mae Deddf Cymru’n ddyfais i rowlio pwerau yn ôl o’r Cynulliad Cenedlaethol, gan leihau’r sgôp o beth y gallwn ni ei wneud dros ein pobl yma yng Nghymru. Mae perig gwirioneddol bod y Torïaid yn cynllwynio i ddwyn mwy o bwerau yn ôl i’r canol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd—