Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 9 Mai 2017.
Mae Bil yr Undebau Llafur, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno yma i’w drafod heddiw, yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei graffu yn bur faith yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yr wyf i'n aelod ohono, yn ogystal â'r pwyllgor cyfansoddiadol, nad ydw i’ aelod ohono, felly ni allaf ond siarad am y peth o ochr y pwyllgor yr wyf i’n aelod ohono.
Clywsom lawer o dystiolaeth, ac roedd consensws clir yn dod i'r amlwg ar ochr y cyflogwyr a’r undebau o blaid y Bil hwn. Mae UKIP yn fras yn cefnogi'r Bil hwn gan ein bod yn credu ei fod yn hybu achos gwella amodau gwaith yng Nghymru, sydd yn nod canmoladwy. Wrth gwrs, dylem ymdrechu i wella amodau gwaith pob gweithiwr, nid dim ond gweithwyr y sector cyhoeddus, sy'n digwydd bod mewn undebau llafur. Ond nid oes unrhyw synnwyr rhesymegol mewn gwaethygu amodau yn fwriadol i weithwyr y sector cyhoeddus, a gwaethygu amodau yw’r hyn y mae'r Gweinidog, Mark Drakeford, wedi dweud wrthym fydd yn digwydd os nad yw deddfwriaeth Llywodraeth Geidwadol y DU yn cael ei diddymu. Roedd bron pob un o'r tystion a glywsom yn y pwyllgor yn tueddu i gytuno â'r farn hon, gan gynnwys, yn fwyaf nodedig, y cyflogwyr eu hunain.
Roedd problem yn codi o ran cymhwysedd cyfreithiol. A oedd gan y Cynulliad gymhwysedd cyfreithiol dros arferion cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu a oedd y cymhwysedd gan San Steffan? Wel, cafodd y pwyllgor ei sicrhau gan Mark Drakeford bod achos cyfreithiol cryf bod y cymhwysedd gennym ni yma. Felly, rydym ni yn UKIP wedi derbyn ei air gyda phob ewyllys da, ac rydym yn cefnogi’r Bil ar y sail honno, er mai’r llysoedd, o bosibl fydd yn penderfynu pwy sy'n iawn yn y pen draw.
Yr hyn na soniwyd amdano mewn gwirionedd yn y cam pwyllgor ac nid yw wedi codi heddiw yw bod Deddf Undebau Llafur y Ceidwadwyr yn y DU, a basiwyd y llynedd, yn gamarweiniol braidd. Y bwriad gwreiddiol y tu ôl i'r Ddeddf oedd torri rhywfaint ar y cyllid ar gyfer y Blaid Lafur oddi wrth yr undebau. Ond gan fod Theresa May eisiau cefnogaeth Llafur dros Brexit, cafodd y rhan hon o'r Bil ei chadw o’r ddeddfwriaeth a basiwyd yn y pen draw gan San Steffan. Yr hyn oedd ar ôl oedd cyfres o fân ddadleuon dros bethau fel amser cyfleuster, didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres a throthwy'r ganran a bleidleisiodd dros streic gyfreithiol. Yn ein barn ni, dylai gweithwyr gael yr hawl gyfreithiol i streicio os yw pleidlais wedi cael ei hennill, ac ni ddylai fod cyfyngiad gan ryw drothwy a osodwyd yn fympwyol. Mae amser cyfleuster, yn ôl pob tebyg, yn gyffredinol yn caniatáu i gynrychiolwyr undebau ymdrin â materion rheoli gweithiwr cyn iddynt fynd yn streiciau—pwynt a wnaeth Hannah Blythyn pan drafodwyd y pwnc hwn y tro cyntaf, ac mae hi wedi ei wneud yn effeithiol eto heddiw. Mae amser cyfleuster, pe gellid ei gyfrifo, yn ôl pob tebyg yn arbed arian cyhoeddus, a hefyd, yn y cyswllt hwn, yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn nad ydym am ei wneud yn awr yw gwastraffu amser drwy geisio recordio, cofnodi a chyfrifo amser cyfleuster yn ddiddiwedd. Byddai hyn mewn gwirionedd yn gyfystyr â gwastraff gwirioneddol o arian cyhoeddus. Mae didynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres yn syml yn ddidyniad awtomatig o gyflog gweithiwr—heb fod yn wahanol iawn, yn ei hanfod, i unrhyw ddidyniad arall. Ni wnaeth neb o ochr y cyflogwyr yn y gwrandawiadau pwyllgor fynegi unrhyw awydd i orffen neu gyfyngu ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy'r gyflogres. Felly, i grynhoi, rydym yn cefnogi'r egwyddor o hawliau gweithwyr, ac rydym hefyd yn cefnogi darpariaeth effeithiol o wasanaethau cyhoeddus. Rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn cynorthwyo’r ddau beth, felly rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.