Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o siarad heddiw o blaid Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru. Rwy'n cymeradwyo’r ffordd brydlon y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag agwedd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru sydd wedi dangos yr arweinyddiaeth gref a sefydlog sydd ei hangen ar Gymru. Mae dull Llywodraeth y DU wedi bod yn llym ac wedi peri rhwyg. Mae Llywodraeth y DU nid yn unig wedi ceisio effeithio ar y ffordd y mae undebau llafur yn gweithio, gan danseilio eu gallu i gynrychioli eu haelodau; maent hefyd wedi gwneud ymosodiad ar y setliad datganoli ei hun, gan geisio datod y pwerau a ddatganolwyd i Gymru.
Cyn cael fy ethol ym mis Mai y llynedd, roeddwn yn dysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghaerffili. Fel y cyfryw, roeddwn yn cael fy nghyflogi yn un o'r gwasanaethau cyhoeddus pwysig hynny yr anelwyd Bil Llywodraeth y DU atynt, er gwaethaf y ffaith bod rheolaeth dros addysg yn rhan allweddol o'r setliad datganoledig o'r cychwyn cyntaf. Beth oedd goblygiadau Bil atchweliadol gwrth undebau llafur Llywodraeth y DU i mi a fy nghydweithwyr? Yn gyntaf, byddai adran 3 wedi gosod trothwy ar ein gallu i bleidleisio dros streic. I bob gweithiwr, streic yw'r cam olaf—y cyfle olaf i sefyll dros hawliau gweithwyr. Fel y gwelsom yn achos y meddygon iau yn Lloegr, mae'r Ceidwadwyr yn benderfynol o erydu a difa hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus i raddau na allai hyd yn oed Thatcher freuddwydio amdanynt. Ond ar yr un pryd ag y mae Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar yr hawl i streicio, nid ydynt yn gwneud unrhyw ymdrech i wthio cwotâu annemocrataidd cyffelyb ar fathau eraill o etholiadau. Fel sy’n digwydd bob amser gyda'r Ceidwadwyr, mae'n un rheol i un, ac un rheol i un arall.
Yn ail, byddai adrannau 13 a 14 wedi ceisio tanseilio egwyddorion amser cyfleuster. Mae undebau llafur yn cynrychioli eu haelodau yn rheolaidd mewn anghydfodau lle mae angen help ar weithwyr ac mewn cyfarfodydd gyda rheolwyr ar ystod o faterion. Byddai gallu stiwardiaid undeb llafur i wneud hyn ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w haelodau wedi lleihau. Byddai llai o gynrychiolaeth i’r gweithwyr; byddai pwerau’r undeb yn llai.
Yn drydydd, byddai adran 15 wedi bygwth hyfywedd undebau i’r un graddau. Mae'r gostyngiad mewn talu tanysgrifiadau yn y tarddiad yn ergyd a anelwyd yn glir at allu undebau i weithredu. Mae diben Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn yn glir: gallai aelodaeth o undeb llafur fod yn gyfyngedig. Byddai amser ac adnoddau undebau llafur yn cael eu gwastraffu yn mynd ar drywydd talu tanysgrifiadau.
Byddai pob un o’r pedair adran wedi bygwth nid yn unig allu a hyfywedd fy undeb i fy nghynrychioli i a fy ngyrfa flaenorol, byddent wedi bygwth gallu undebau’r sector cyhoeddus i gynrychioli gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru. Gan fod tua thri o bob 10 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, byddai effaith deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn sylweddol. Ar ben hynny byddai dull dialgar Llywodraeth y DU wedi bod yn seiliedig ar sathru’r setliad datganoli a phwerau’r corff hwn. Nid yw hyn yn dderbyniol ac nid yw'n argoeli'n dda cyn dychwelyd pwerau gan yr Undeb Ewropeaidd.
Dilynais â diddordeb mawr yr ymchwiliad Cam 1 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i Fil arfaethedig Llywodraeth Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i'r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am y darn defnyddiol hwn o dystiolaeth. Yr hyn oedd yn fy nharo oedd y gefnogaeth aruthrol i egwyddorion cyffredinol y Bil. Daeth hyn nid yn unig gan y rhai y byddem yn disgwyl iddynt gefnogi’r Bil, fel yr undebau llafur, daeth hefyd o dystiolaeth a ddarparwyd ar ran cymdeithasau proffesiynol ac, yn hollbwysig, gyflogwyr y sector cyhoeddus. Ymunodd yr holl leisiau hyn mewn corws o gymeradwyaeth i’r Bil. Corws a gyhoeddodd fod dogmatiaeth styfnig Llywodraeth y DU yn benderfynol o wrthdroi egwyddorion partneriaeth gymdeithasol y mae Llywodraethau olynol Cymru wedi seilio eu dull o weithredu cysylltiadau diwydiannol arnynt. Ar ben hynny, clywodd y pwyllgor y byddai cynlluniau Llywodraeth y DU nid yn unig yn dryllio’r athrawiaeth, ond hefyd pe bai cyfran gyfartal gan y partneriaid wrth ddarparu gwasanaethau, byddai eu cynlluniau hefyd yn effeithio ar ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny eu hunain. Fel y dywedodd Cymdeithas y Radiograffwyr, byddai effaith newidiadau Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn fwy anodd i’n haelodau roi’r cleifion yn gyntaf a byddai yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion.
Edrychaf ymlaen at gefnogi Bil Llywodraeth Cymru, ac, wrth wneud hynny, gefnogi gweithwyr y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus heddiw.