Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy’n dymuno cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i. Mae gwelliant 39, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ceisio, drwy gyfrwng canllawiau Llywodraeth Cymru, gryfhau strategaethau toiledau lleol drwy wneud y camau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd yn eglur er mwyn mynd i'r afael â'r angen am doiledau cyhoeddus yn eu hardal leol mewn modd effeithiol ac amserol. Credaf mai hon yw'r ffordd orau o gyflawni’r hyn y mae mwyafrif y tystion a roddodd eu tystiolaeth yn ystod Cyfnod 1 a 2 am ei weld, sy'n ffordd o sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwarantu darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn.
Mewn byd delfrydol, ni fyddem yn chwilio am ffyrdd o gael y nifer fwyaf o doiledau i’r cyhoedd eu defnyddio; byddai gennym ni ddigon o gyfleusterau eisoes i ddarparu ar gyfer yr angen mwyaf sylfaenol hwn. Ond nid ydym yn byw mewn byd delfrydol; rydym yn byw mewn byd lle mae'r henoed a'r anabl yn gaeth i’w cartrefi, yn methu â mentro y tu allan oherwydd nad oes toiledau cyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn llawer man.
Nid yw’r ffaith syml fod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau baratoi strategaeth toiledau cyhoeddus yn gwneud dim i wella'r ddarpariaeth na thawelu pryderon y rhai a effeithir gan y diffyg mewn darpariaeth. Caiff y pryderon hyn eu rhannu nid yn unig gan grwpiau cleifion a'r comisiynydd pobl hŷn, ond hefyd gan Gydffederasiwn y GIG, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ddywedodd wrth y pwyllgor iechyd y bydd pwysau ariannol ar gynghorau yn golygu na fydd strategaeth yn gwella darpariaeth.
Mae gwelliant 39 yn cryfhau'r iaith a ddefnyddir, ac yn ei gwneud yn eglur i awdurdodau lleol ei bod yn rhaid iddyn nhw weithredu, nid yn unig gyflwyno cynigion, a bod y camau y byddan nhw’n eu cymryd wrth weithredu mor effeithiol ag sy’n bosibl ac yn cael eu cwblhau o fewn amserlen resymol. O ystyried y cyfyngiadau ariannol sydd arnom, dyma’r gorau y gallwn ei obeithio amdano. Drwy gydol trafodion Cyfnod 1 y Bil hwn rwyf wedi teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru amgyffred y darlun cyffredinol o’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus ledled Cymru. Nid oes unrhyw fudd o gael 22 o strategaethau toiledau lleol os yw’r ddarpariaeth yn anghyson mewn rhai ardaloedd. Felly mae gwelliant 40 a gyflwynwyd yn fy enw i yn rhoi'r baich ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y strategaethau toiledau lleol, gyda’i gilydd, yn rhoi darpariaeth ddigonol yn genedlaethol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn fy nadl yn ystod Cyfnod 2 ei bod yn angenrheidiol i ni sicrhau bod y canllawiau ar strategaethau toiledau yn cwmpasu cydweithio rhwng awdurdodau lleol. Byddaf yn cefnogi gwelliant 27 y Gweinidog, ond teimlaf y gellid ei gryfhau i ddangos mai’r rheswm dros gydweithio rhwng awdurdodau yw sicrhau bod darpariaeth ddigonol o doiledau drwy’r rhanbarthau perthnasol. Am y rheswm hwn, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 27A a gyflwynwyd yn fy enw i. Diolch yn fawr.