Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Mae'r gwelliannau hyn yn ceisio cyflwyno darpariaeth benodol ar ansawdd yr aer yn y Bil drwy ychwanegu rhan newydd. Rwy'n rhannu’r pryderon sydd y tu ôl i'r gwelliannau. Mae ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu yn fater hollbwysig i iechyd y cyhoedd.
Fel yr wyf wedi dweud yn gyson, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddangos pa mor bwysig yw’r mater hwn. Dangoswyd hyn yn fwyaf diweddar gan ymgynghoriad eang a arweinwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae llygredd aer yn fater sy’n galw am weithio’n wirioneddol ar draws y Llywodraeth, ac rydym yn gwbl ymroddedig i symud yr agenda hon yn ei blaen drwy amrywiaeth o waith sydd eisoes ar y gweill a gwaith arfaethedig. I ddangos hyn, mae nifer o ymrwymiadau wedi'u gwneud eisoes sy'n bodloni’r amcanion sydd y tu ôl i welliannau yn y grŵp hwn. Er enghraifft, o ran gwelliant 45, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a minnau eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i’w hannog i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith ar ansawdd aer.
Yn yr un modd, yn berthnasol i welliant 46, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau polisi ansawdd aer newydd i awdurdodau lleol yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y canllawiau hyn yn nodi ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymysg eraill, fel cartrefi gofal, ysbytai, meithrinfeydd, a meysydd chwarae, yn lleoliadau sensitif ar gyfer derbynyddion. Bydd hefyd yn nodi nad yw pobl hŷn, pobl â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli, babanod, plant a phobl sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol hir wedi’u cyfyngu i'r mannau uchod a’u bod yn haeddu'r un lefel o amddiffyniad lle bynnag y bônt.
Felly, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg wrth leoli eu mesuryddion. Dylai hyn gael ei lywio gan ble y mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn debygol o fod yn agored i'r lefelau uchaf o lygredd aer. Ein cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yw y dylent weithio tuag at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, y dylent roi ystyriaeth benodol i'r risgiau hirdymor i fabanod a phlant a achosir gan lygredd aer, boed yn eu cartrefi eu hunain, yn eu hysgol neu eu meithrinfa, neu wrth deithio rhwng y ddau.
O ran gwelliant 44, mae adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion lunio strategaeth ansawdd aer sy'n cynnwys polisïau ar asesu a rheoli ansawdd aer. Byddai'n amhriodol i hyn gael ei ddyblygu yn y Bil hwn. Oherwydd natur traws-ffiniol llygryddion aer, mae'r strategaeth ansawdd aer bresennol, a gyhoeddwyd yn 2007, yn cael ei chyflwyno mewn dogfen ag amcanion cyffredin sy'n cwmpasu pob rhan o'r DU.
Efallai bod yr aelodau hefyd yn ymwybodol bod DEFRA bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y cyd yn y DU ar gynllun drafft newydd, sy’n bodoli ochr yn ochr â'r strategaeth ledled y DU. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y nod penodol o sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol yr UE ar gyfer nitrogen deuocsid ar ffyrdd penodol yn yr amser byrraf posibl. Mae'r cynllun drafft hwn yn canolbwyntio ar un agwedd bwysig ar ansawdd aer ac nid yw'n cymryd lle strategaeth ansawdd aer presennol y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft ar gyfer nitrogen deuocsid yn cau ar 15 Mehefin.
Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiadau arwyddocaol newydd gan Lywodraeth Cymru i ymgynghori, o fewn y 12 mis nesaf, ar fanylion y cynnig ar gyfer fframwaith parth aer glân i Gymru. Mae'r datblygiad newydd allweddol yn un o nifer o ddarnau pwysig o waith y byddwn yn ei wneud ar bwnc ansawdd aer yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae eraill yn cynnwys gwneud newidiadau i ‘Bolisi Cynllunio Cymru’ mewn cysylltiad ag ansawdd aer, gweithredu'r gwelliannau a gytunwyd yn ddiweddar i reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru ac adolygu beth arall y gellir ei wneud mewn cysylltiad â’r rhwydwaith cefnffyrdd.
Fodd bynnag, rwy’n siomedig ag agweddau ar ymrwymiadau drafft Llywodraeth y DU yn y cynllun nitrogen deuocsid, o ystyried y diffyg gwybodaeth yn yr ymgynghoriad ar ba gamau pellach a fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag allyriadau yn y DU. Er enghraifft, y tu hwnt i Gymru, mae nifer o feysydd o weithgaredd sydd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn gostwng allyriadau cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin ac eraill wedi galw ar Lywodraeth y DU i lansio cynllun sgrapio diesel a fyddai'n rhoi grantiau i ostwng cost cerbyd allyriadau isel i berchennog sy’n sgrapio eu cerbyd diesel.
Pryder mawr arall â gwelliant 44 yw bod y drafftio yn ddiffygiol gan na roddir unrhyw ddiffiniad o gyrff cyhoeddus. Mae hyn yn broblem mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, o safbwynt ymarferol, nid yw'n glir pwy sy'n dod o dan y term ‘corff cyhoeddus’. Gallai hyn arwain at ddryswch. Gallai diffyg eglurder ynghylch cwmpas y dyletswyddau arwain at gyrff cyhoeddus yn torri’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i'r strategaeth llygredd aer a osodwyd arnynt gan welliant 44, a hynny’n gwbl anfwriadol. Pan fydd dyletswydd gyfreithiol yn cael ei gosod, mae angen cael sicrwydd ynghylch ei chwmpas ac nid yw’r gwelliant hwn yn darparu hynny.
Yn ail, ac yn bwysicach, mae drafftio gwelliant 44 y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fel y'i drafftiwyd, byddai'r cyfeiriad at gyrff cyhoeddus yn cynnwys cyrff cyhoeddus sy'n arfer swyddogaethau Gweinidog y Goron. Byddai angen cydsyniad Llywodraeth y DU i osod dyletswydd o'r fath ar y cyrff cyhoeddus hyn. Os caiff y gwelliant fel y'i drafftiwyd ei basio, gallai arwain at atgyfeiriad, a fyddai'n achosi oedi wrth ddod i rym a gweithredu darpariaethau iechyd y cyhoedd mawr eu hangen eraill a geir yn y Bil hwn.
Am yr holl resymau hyn, ni allaf gefnogi unrhyw un o'r gwelliannau yn y grŵp hwn, ond byddwn yn tawelu meddwl yr Aelodau ynghylch y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn drwy'r gwahanol weithgareddau yr wyf wedi'u hamlinellu.