Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch i chi, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl a chroesawu yn rhannol o leiaf yr hyn a ddywedodd am rai o'r camau sydd wedi eu cymryd. Ceisiaf ailddatgan fy nadleuon mewn ffordd fwy argyhoeddiadol i Angela Burns ac o bosibl i Caroline Jones.
Gwelliant 45—credaf ei bod yn bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan ei bod yn bwriadu, fel y dywedodd y Gweinidog rwy’n meddwl, cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar gyfer cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd byrddau iechyd lleol, cyfarwyddwyr amddiffyn y cyhoedd awdurdodau lleol, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’w hannog i gefnogi cyflwyno dulliau rheoli ansawdd aer lleol. Felly, rwy’n credu bod peth o’r ddyletswydd hon eisoes yn yr arfaeth. Rwy’n cyfaddef bod hyn yn ymagwedd fwy statudol, ond mae rhywfaint o hynny wedi'i wneud eisoes. Hoffwn hefyd dynnu sylw pawb, mewn gwirionedd, at y ffaith bod Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn credu y gallai hyn yn wir arbed arian yn yr hirdymor. Nid yw'r gwelliant ei hun yn pennu dull ar gyfer rhoi rhybuddion—os gallaf eu galw’n hynny. Felly, efallai’n wir mai awdurdodau lleol fyddai’r dull o’u darparu; dim ond rhwymedigaeth ydyw ar y byrddau iechyd i baratoi y wybodaeth honno. Mae'n debyg i'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn Llundain, lle mae'n cael ei weld fel rhan bwysig iawn o fyw yn y ddinas honno: eich bod yn gwybod beth yw eich iechyd cyhoeddus pan fyddwch yn cerdded allan drwy'r drws, pa ardal sy’n llygredig neu beidio. Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, fel y dywedais, yn dweud y gallai hyn leihau'r risg o waethygu anochel ar gyfer y rhai hynny sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau ysgyfaint cyffredin eraill ac, felly, byddai o bosibl yn lleihau nifer y bobl sy’n mynd i'r ysbyty. Felly, rwy’n meddwl bod yna ffordd o geisio sicrhau bod hyn yn ddull fforddiadwy a rhesymol o sicrhau nad yw pobl yn agored o ran eu hiechyd eu hunain neu iechyd eu plant i lygredd aer gwael iawn yn ddiangen.
Gwnaeth yr Aelod ei hun grybwyll Hafodyrynys, lle mae llygredd aer gwael iawn yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod yna bedair ardal yng Nghymru: mae Hafodyrynys yn un; Aberpennar yn un arall; a rhywle yn Abertawe, rwy’n meddwl, o amgylch y stryd fawr yn Abertawe, wrth yr orsaf, yn drydydd. Ni allaf gofio’r pedwerydd ar hyn o bryd. Byddwn i wir yn meddwl pe byddech chi’n gofyn i bobl sy’n cerdded yn yr ardaloedd hynny, ‘Beth yw'r llygredd aer yma? A yw'n ddiogel neu beidio?’ Nid wyf yn credu y byddent yn gallu eich ateb chi, ac rwy’n meddwl mai dyna'r wybodaeth y mae angen i ni ei chael allan yno fel y gallant gymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd.
Rwy'n meddwl mai’r ddadl gyffredinol, a’r rheswm nad wyf wedi fy argyhoeddi’n llwyr gan ymateb y Gweinidog, yw ein bod wedi cael proses ar gyfer ymdrin ag ansawdd aer ers peth amser yng Nghymru bellach. Mae gennym 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer—dim gwelliant sylweddol yn yr ardaloedd hynny, fel arall byddai rhai ohonynt wedi cael eu diddymu neu eu newid mewn rhyw ffordd. Nid yw hynny wedi digwydd. Nid yw ein system bresennol yn gweithio mewn ardaloedd o lygredd aer uchel, fel y crybwyllodd Angela Burns. Yn wir, rwy'n credu nad yw'n ddigon i ddibynnu ar Lywodraeth y DU i gynhyrchu ei statud ei hun ac yna, mewn rhyw ffordd, plethu’r darnau sy’n berthnasol i Gymru yn hwnnw.
Mae adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol 2016 gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod torri targedau allyriadau yn fygythiad i iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol. Felly, fel y dywedais yn gynharach, nid yw’r ffaith ei fod eisoes mewn deddfwriaeth amgylcheddol yn rheswm dros beidio â’i roi mewn deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Yn wir, mae'n ffordd dda iawn o gau’r cylch hwnnw, mewn ffordd, ac mae'n ffordd dda iawn o sicrhau bod uchelgeisiau mewn deddfwriaethau blaenorol, fel Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac yn fanwl mewn statud.
Y pwynt olaf, os caf: mae yna fater cyfiawnder cymdeithasol i hyn. Mae'r meysydd sydd eisoes wedi eu crybwyll sy’n dioddef o ansawdd aer gwael, efallai y byddwch yn sylwi, hefyd yn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol go iawn. Mae Huw Brunt, pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cynnal astudiaeth o lygredd aer, amddifadedd ac iechyd, ac roedd hwnnw’n dangos bod canlyniadau iechyd pobl sy'n byw mewn amddifadedd hyd yn oed yn waeth pan oeddynt yn byw mewn ardaloedd o lygredd aer uchel. Roedd Mr Brunt yn dadlau dros ddull effeithiol o reoli ansawdd aer, un sy'n cyfuno camau gweithredu ar lefel genedlaethol i asesu a lleihau risgiau i bawb, ac ymyrraeth ar lefel leol, wedi'i thargedu mewn cymunedau risg uchel i leihau llygredd aer ac anghydraddoldebau iechyd. Dim ond heddiw, mae astudiaeth a ddyfynnwyd yn y ‘Times’, ar gyfer yr Unol Daleithiau, yn nodi bod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd â’r llygredd aer gwaethaf tua 10 y cant yn fwy tebygol o gael canser, sy’n fwy o effaith ar gyfraddau canser na dŵr brwnt a chemegau gwenwynig.
Felly, byddwn yn dadlau, ac mae Plaid Cymru yn dadlau, heb strategaeth genedlaethol yng Nghymru ar lygredd aer, mae Llywodraeth Cymru yn methu â chyflawni ei thargedau ei hun o sicrhau Cymru iachach, fwy cydnerth, fwy cyfartal a mwy ymatebol yn fyd-eang.