<p>Grŵp 10: Canllawiau ynghylch Mynd i mewn i Anheddau (Gwelliannau 30, 31)</p>

Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:27, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byddai'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi ar arfer y pwerau mynediad ac archwilio ym mhob rhan o’r Mesur. Byddai'r canllawiau yn ymdrin â sut i sicrhau cydymffurfio â hawliau'r confensiwn o ran eiddo sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd. Mae'r mater hwn wedi ei drafod gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gynharach yn y broses o graffu ar y Bil, ac rwyf wedi cyfathrebu â'r pwyllgor ynghylch y pwynt penodol hwn.

Wrth ystyried y gwelliannau, fy man cychwyn i yw fy mod i’n cytuno’n llwyr bod cydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol yn hollbwysig. Nid wyf yn anghytuno o gwbl felly â’r bwriad sy'n sail i’r gwelliannau, ac rwy’n gwerthfawrogi barn gref David Melding ar hyn. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi’i amlinellu yn ddiweddar mewn gohebiaeth i'r pwyllgor, rwy’n parhau i fod o’r farn bod gwelliannau penodol sy'n cyfeirio at gydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol yn y Bil yn ddiangen. Yn bwysig, maent hefyd mewn perygl o beri dryswch yn anfwriadol gan nad yw darpariaethau tebyg wedi eu cynnwys mewn deddfwriaeth arall. Nodaf modd coeglyd David Melding o gwestiynu’r egwyddor hon, ond dyna yw fy marn i o hyd.

Deuthum i'r casgliad hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae awdurdodau cyhoeddus eisoes yn destun dyletswydd statudol gyffredinol o dan adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i weithredu'n gydnaws â hawliau'r confensiwn wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus fel yr heddlu ac awdurdodau lleol eisoes yn gyfarwydd iawn â'r gofynion, a dylent weithredu yn unol â hynny. Yn ail, rhoddwyd ystyriaeth briodol eisoes i'r mater hwn yn y Bil. Mae cyfres o gyfyngiadau a chamau diogelu penodol wedi’u cynnwys yn y Bil o ran sut y dylai swyddogion awdurdodedig arfer pwerau mynediad ac archwilio. Er enghraifft, ni chaiff swyddogion awdurdodedig fynd i mewn i eiddo drwy rym oni bai fod ganddynt warant wedi’i llofnodi gan ynad heddwch, ac mae gwarant o'r fath yn ddilys am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig. Atgyfnerthwyd y mesurau diogelu hyn eto yng Ngham 2 pan gytunwyd ar welliannau sy'n darparu diogelwch ychwanegol i berchnogion tai. Mae'r rhain yn helpu i sicrhau y caiff pwerau mynediad eu harfer mewn modd cymesur a phriodol, sy'n arbennig o bwysig wrth ystyried anheddau preifat. Er enghraifft, os bydd deiliad yr eiddo yn bresennol pan fydd warant yn cael ei gweithredu, mae'r Bil yn darparu y byddai angen i'r swyddog awdurdodedig roi ei enw, tystiolaeth ddogfennol ei fod yn swyddog awdurdodedig, a rhoi copi o’r warant i’r deiliad.

Credaf fod mesurau diogelu penodol, ymarferol o'r fath yn darparu gwell ffordd o amddiffyn hawliau unigolion na'r dull a awgrymir yn y gwelliannau hyn. Maent hefyd yn dangos y meddwl a’r gwaith manwl sy'n digwydd o ran ystyriaethau hawliau dynol, a’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r materion hyn. Byddwn i hefyd yn pwysleisio mai’r awdurdodau cyhoeddus fydd yr awdurdodau gorfodi o dan y Bil hwn. Golyga hyn mai dim ond sefydliadau sydd eisoes wedi eu rhwymo gan rwymedigaethau hawliau dynol ac sy’n hyddysg iawn mewn cydymffurfio â nhw fydd yr awdurdodau gorfodi, a fydd, unwaith eto, yn helpu i sicrhau bod y pwerau yn cael eu defnyddio'n briodol.

Mae canllawiau sefydledig eisoes ar waith o dan god ymarfer yr heddlu ar gyfer arfer pwerau mynediad, chwilio ac atafaelu statudol, a elwir yn Cod B PACE, sy'n ymdrin â'r mater hwn yn ddigonol. Mae hyn yn berthnasol i'r heddlu a swyddogion awdurdodau lleol wrth ymchwilio troseddau, ac mae’n rhoi pwyslais clir ar weithredu yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998. Pe byddai canllawiau ar wahân yn cael eu cyflwyno ar gyfer y Bil hwn, byddai risg sylweddol o beri dryswch yn anfwriadol, ac o fwrw amheuaeth ar gydlyniad cyffredinol y fframwaith deddfwriaethol presennol sydd eisoes wedi’i ymgorffori'n dda ledled Cymru. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.