Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Mai 2017.
Prif Weinidog, roedd yn newyddion da bod yr Ysgrifennydd cyllid wedi datgan y bydd model buddsoddi cydfuddiannol gwerth £1 biliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau seilwaith yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys seilwaith cymdeithasol, fel canolfan gofal canser Felindre, a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain hefyd, ond hefyd y cam terfynol o ddeuoli'r A465, sydd mor hanfodol i’m hetholaeth fy hun. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio dulliau arloesol tebyg i fuddsoddi mewn seilwaith a bod o fudd i bobl Cymru yn y dyfodol?