Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 16 Mai 2017.
Prif Weinidog, rhoddodd cyllideb y DU y llynedd hwb gwerthfawr i wariant seilwaith cyfalaf yng Nghymru ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd. A ydych chi’n cytuno â mi bod y prosiectau a grybwyllwyd gennych, y cytundeb i’w groesawu o ran cytundeb dinas Caerdydd, a chyhoeddiad heddiw ar ddiddymu tollau pont Hafren, yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni a bod Llywodraeth Cymru a chithau yn cael mwy o fudd o lawer o weithio gyda Theresa May na gyda Jeremy Corbyn?