Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 16 Mai 2017.
Yn gyffredinol, wrth gwrs, y mwyaf y mae plant yn gorfod teithio er mwyn cael eu haddysg, y mwyaf yw’r rhwystr sydd yn eu cadw nhw rhag mynd i ysgolion cynradd a hefyd ysgolion cyfun. Wrth gwrs, mae hynny’n rhan o’r ystyriaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’r cynlluniau strategol sydd gan awdurdodau lleol.
Ynglŷn â’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni fyddaf i ddim yn y swydd hon bryd hynny—fe gaf i ddweud hynny. Bydd y ddogfen derfynol yn ystyried y berthynas rhwng yr iaith a hefyd datblygu economaidd, a bydd hynny’n rhywbeth sy’n cael ei gyhoeddi'r flwyddyn hon, ac wrth gwrs bydd y sefyllfa addysg yn cael ei hystyried yn fanwl fel rhan o’r broses honno.