Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 16 Mai 2017.
Un ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod yna fwy o weithgareddau ar gael, er enghraifft, yw sicrhau bod mwy o ganghennau actif o’r Urdd. Er enghraifft, yn fy ardal i, mae yna un ysgol gyfun Gymraeg ac mae yng Ngwm Llynfi. Nid yw’n ganolog iawn i’r sir, ond mae pob plentyn yn y sir yn mynd yno, hyd yn oed y rhai sy’n dod o Gwm Ogwr, sy’n gorfod teithio dros ddau gwm i fynd yno. Ond, mae’r Urdd yn cynnal gweithgareddau sydd yn sicrhau nad yw pobl yn gorfod teithio i Langynwyd bob tro—maen nhw’n gallu mynd i Ben-y-bont a Phorthcawl. Mae hynny’n un ffordd, wrth gwrs, i sicrhau bod plant yn cael mynediad mewn i awyrgylch Cymraeg y tu fas i’r ysgol heb orfod teithio gormod.