Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog yn syth ar ôl y datganiad busnes er mwyn caniatáu cynnal dadl fer yfory ar ôl pleidleisio heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.