Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 16 Mai 2017.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar bwysigrwydd prifysgolion yn sbarduno’r economi, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector prifysgolion a chynhyrchu parciau gwyddoniaeth tebyg i Gaergrawnt ac Aarhus yn Nenmarc, sydd wedi bod yn bwysig iawn yn llwyddiant economaidd y ddwy ardal hynny?