Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 16 Mai 2017.
A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Mae’r un cyntaf yn ddigon syml—rŷm ni newydd gyhoeddi, wrth gwrs, erbyn hyn fod pob un plaid yng Nghymru o blaid diddymu tollau pont Hafren. Rwy’n croesawu hynny—rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato fe—ond mae’n gadael un bont ac un bont yn unig yng Nghymru gyda thollau arni hi, a phont Cleddau yw honno. Mae pont Cleddau yn llwyr yn nwylo Llywodraeth Cymru: hynny yw mae sir Benfro yn berchen arni ar hyn o bryd, ond mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i ‘trunk-o’ y ffordd dros bont Cleddau—mae hynny wedi’i ddatgan gan y cyn-Weinidog, Edwina Hart, ac wedi’i ailddatgan mewn egwyddor gan Ken Skates, hefyd. Felly, beth yw’r bwriad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pont Hafren—i ddiddymu’r tollau oddi ar y bont honno, yr un bont lle mae tollau yn mynd o un rhan o barth menter i ran arall? A gawn ni wneud yn siŵr bod Cymru yn wlad sy’n rhydd o dollau a bod breuddwyd Merched Beca yn dod yn fyw o’r diwedd?
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano gan y Llywodraeth—bach yn fwy cymhleth—mae’n ymwneud â chais cynllunio ar gyfer maes gwyliau cabanau ym Meddgelert. Nid wyf yn disgwyl i’r Llywodraeth wneud datganiad ynglŷn â’r cais cynllunio o gwbl ond mae’r maes pebyll ym Meddgelert yn cael ei chwalu ac mae cais cynllunio ar gyfer maes cabanau gwyliau yn ei le, sy’n cynnwys ‘hot tubs’ a phob math o bethau felly, gan gynnwys siop a chanolfan a phethau felly.
Mae’r cynllun y tu ôl i hwn yn rhan o rywbeth sy’n deillio o’r hen Gomisiwn Coedwigaeth. Hoffwn i, felly, ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cais yma. Yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fel etifedd i’r hen Gomisiwn Coedwigaeth, gyfranddaliad o 20 y cant yn y cynllun yma, ac os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, ac yn llwyddiannus o ran cael caniatâd cynllunio, fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael £48,000 y flwyddyn mewn rhent ar gyfer 16 o gabanau gwyliau, sef £3,000 fesul caban. Wrth gwrs, y broblem fan hyn yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rheoleiddiwr ar gyfer y safle, ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheoleiddiwr y safle wedi codi’r un gwrthwynebiad ynglŷn â’r datblygiad. Mae gennych, felly, gorff llywodraethol sy’n rheoleiddio ac yn gyfrifol hefyd fel buddsoddwr. Byddwn i’n licio clywed gan Lywodraeth Cymru sut yn union maen nhw’n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru unioni’r sefyllfa yma a chadw’r fantolen yn syth fel bod y bobl leol yn gallu bod yn gallu bod yn saff eu bod nhw’n gwneud eu priod waith yn diogelu’r amgylchfyd lleol.