2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 16 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:39, 16 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A allem ddod o hyd i amser i gael datganiad ar effaith niweidiol y toriadau sy’n cael eu gwneud i bolisïau lles a hyrwyddo ffyniant Llywodraeth Cymru—toriadau sy’n bodoli eisoes a thoriadau sy’n bosibl yn y dyfodol— i daliadau anabledd yng nghymoedd y de a ledled Cymru? Daeth gostyngiad o £30 yr wythnos i’r rheini sy’n hawlio’r lwfans cyflogaeth a’r lwfans cymorth o’r newydd i rym fis diwethaf. Felly bydd pobl anabl sy’n cael eu rhoi mewn grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith nawr yn cael £73 yr wythnos. Os caf ailadrodd hynny: £73 yr wythnos. Fyddwn i ddim yn gallu byw ar hynny, a hefyd ymdopi â'r heriau a'r costau ychwanegol sydd gan bobl anabl. Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, yn dweud y bydd y gyfradd is hon o gymorth, yn ei geiriau hi, i annog pobl anabl i ddod o hyd i waith.

Eto i gyd, mae dros 30 o elusennau anabledd awdurdodol wedi dweud nad oedd y toriadau yn gymhelliad i weithio o gwbl, ond eu bod yn gwneud bywyd yn fwy anodd i bobl anabl sy'n wynebu costau byw ychwanegol, a’u bod yn golygu na fydd rhai pobl yn gallu fforddio pethau angenrheidiol sylfaenol. Yr wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Prif Weinidog ddiystyru toriadau pellach i lwfansau pobl anabl. Felly os yw pethau'n ddrwg ar hyn o bryd, allwn ni ond dychmygu sut y gallai pethau fod pe bai Llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol am y pum mlynedd nesaf. Felly, a gawn ni ddatganiad i roi goleuni ar effeithiau’r cosbau hyn ar bobl anabl, a'r canlyniadau i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli a'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw?