Part of QNR – Senedd Cymru ar 16 Mai 2017.
Mae’n anffodus bod yna fylchau sylfaenol yn yr wybodaeth a ddarparwyd yng nghais Cylchffordd Cymru a arweiniodd at oedi sylweddol wrth gynnal y broses diwydrwydd dyladwy hanfodol. Rydw i wedi cael gwybod y bydd yn cymryd rhai wythnosau eto i gwblhau’r hyn sy’n weddill o’r broses honno. Wedi hynny, bydd y Cabinet yn ystyried y prosiect cyn gynted ag y bydd yn ymarferol bosib.