Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Mai 2017.
Gwnaf. Rydym yn hynod falch o’n treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yng Nghymru. Mae dros 1,000 o adeiladau diwydiannol yn cael eu gwarchod yn statudol fel adeiladau rhestredig neu fel henebion cofrestredig. Mae treftadaeth ddiwydiannol hefyd yn elfen amlwg o’n cynllun dehongli treftadaeth ar gyfer Cymru gyfan, sy’n canolbwyntio ar ‘Cymru: y genedl ddiwydiannol gyntaf’.