<p>Lleddfu Tagfeydd i’r Dwyrain o Gaerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 17 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 1:57, 17 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yn sicr, gallwn gytuno ar hynny. Ond mae pum mlynedd bellach ers adroddiad Mark Barry, ‘A Metro for Wales’ Capital City Region’, a dwy flynedd ers i fwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd gytuno bod angen system drafnidiaeth integredig arnom fel catalydd ar gyfer newid economaidd. Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o bobl yn tyrru i Gaerdydd a Chasnewydd mewn ceir ac yn cynyddu tagfeydd a phroblem llygredd awyr yn sylweddol. Ymddengys nad oes gan y map o orsafoedd metro posibl fwy statws na darn o waith celf. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd y gall pobl Caerdydd a Chasnewydd siapio’r map metro newydd er mwyn darparu’r newid moddol y mae pawb i’w gweld yn cydnabod bod ei angen.