Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl eithriadol o dda, ac yn ddadl oleuedig iawn. Siaradodd llawer o’r Aelodau am eu profiadau personol o dechnoleg, ac yn wir maent wedi rhoi i ni rai o’r ffeithiau llwm iawn am gam-drin ar-lein, ecsbloetio ar-lein, a rhai o’r problemau y mae hynny wedi’u hachosi yn wir, gan gynnwys i unigolion mewn amgylchiadau tebyg i etholwr Paul, yn anffodus, a gyflawnodd hunanladdiad. Dylwn fod wedi talu teyrnged, mewn gwirionedd, i waith Jayne Bryant fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, gan ei bod wedi gwneud gwaith rhagorol yn tynnu sylw at hyn fel problem, ynghyd â’r NSPCC ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio’n galed i’w gael yn fwy amlwg ar ein hagenda. Rydych wedi gwneud gwaith rhagorol, ac rwy’n falch eich bod wedi gallu cyfrannu at y ddadl heddiw.
Rwy’n meddwl hefyd—gwnaeth pwynt Gareth Bennett am rieni a rôl rhieni argraff fawr arnaf mewn gwirionedd, oherwydd ceir llawer o anwybodaeth ymysg rhieni, a dweud y gwir, am y cam-drin posib sy’n digwydd yn yr ystafell wely i fyny’r grisiau lle mae eu plentyn yn ymlochesu tra’u bod hwy i lawr y grisiau’n gwylio’r teledu, ac nid yw llawer o rieni yn ymwybodol o’r ffaith y gallant roi hidlwyr ar waith, y gallant roi apiau ar ffonau symudol pobl ac yn y blaen er mwyn diogelu eu teuluoedd yn well. Wyddoch chi, rwy’n dad—roedd yn dda clywed Kirsty fel Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at ei phlant hefyd—rwyf eisiau’r mesurau diogelwch gorau posibl ar waith ar gyfer fy mhlant, a gwnaeth yr adnoddau sydd ar gael os edrychwch amdanynt argraff fawr arnaf mewn gwirionedd. Felly, rwy’n meddwl bod y ffaith fod llawer o ysgolion yn ymgysylltu’n gwbl briodol gyda rhieni er mwyn eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd hynny’n beth da, ac roeddwn yn falch iawn o glywed hynny yn eich ymateb i’r ddadl, Gweinidog.
Fel y dywedodd Suzy Davies yn gwbl briodol, mae hwn yn fater rhyngwladol, nid rhywbeth y mae angen i Gymru’n unig fynd i’r afael ag ef, neu rywbeth y mae angen i’r DU yn unig fynd i’r afael ag ef, ac rwy’n falch fod y DU ar flaen y gad mewn gwirionedd, ac yn gwneud pethau sy’n arwain y byd ar fynd i’r afael â pheryglon y rhyngrwyd. Roeddwn yn falch iawn hefyd o’ch clywed yn sôn am arch y cyfamod ar ôl i mi grybwyll llechi cerrig Moses ar ben mynydd Sinai, llechi cerrig a roddwyd yn arch y cyfamod wedi hynny, felly dyna gyswllt da yn y fan honno. Ond yn bennaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wrth fy modd gyda’ch ymateb i’r ddadl, am fy mod yn credu ei fod yn dangos ein bod wedi cael consensws ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn—ac nid yn unig hynny, ond eich bod yn barod i weithredu. Felly, roeddwn yn falch iawn o’ch clywed yn sôn am y cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol y gobeithiwch ei ddatblygu yn awr. Byddwn yn awyddus i weithio gyda chi ar hwnnw a chefnogi ei weithrediad ym mha ffordd bynnag y gallwn. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio hefyd nad yw’n ymwneud yn unig â’r ysgolion, nid yw’n ymwneud yn unig â gweithio gyda rhieni, mae angen i ni weithio gyda’r gymdeithas ehangach hefyd, gyda busnesau a sefydliadau eraill, yn y bôn, lle bynnag y mae Wi-Fi am ddim ar gael.
Un pwynt olaf yn y fan hon: roeddwn yn pryderu’n fawr—. Yn ddiweddar, trefnais gontract ffôn symudol gyda Vodafone—rwy’n mynd i’w henwi—ac roedd yn fargen wych. Fodd bynnag, un o’r problemau gyda’r contract oedd ei fod yn dod gyda hidlydd diogelwch rhyngrwyd awtomatig, a oedd yn wych, ond ar ôl mis, cefais wybod ganddynt fod yn rhaid i mi dalu rhagor er mwyn i’r hidlydd barhau. Dylai’r rhain fod yn bethau sy’n awtomatig. A dweud y gwir, dylem fod yn talu mwy am gael gwared ar yr hidlwyr, yn hytrach na gorfod talu am eu rhoi ar waith mewn gwirionedd. Felly, gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd, ar sail gorfforaethol yn y Cynulliad, i herio’r mathau hyn o bethau a’r mathau hyn o agweddau gan ddarparwyr teleffoni, gan fusnesau, nad ydynt yn talu’r sylw dyledus sydd angen ei wneud i beryglon diogelwch y rhyngrwyd, a gobeithio, gallwn wneud Cymru’n lle mwy diogel i dyfu i fyny ynddo. Diolch.