Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 17 Mai 2017.
Mae problem efo meddygaeth teulu, hefyd. Mae gan bwyllgor meddygol gogledd Cymru bryder ynglŷn â chynaladwyedd dros dreian o feddygfeydd yn y rhanbarth: mae un o bob tair meddygfa mewn perig. Mae’r pwyllgor yn dweud bod angen 70 meddyg teulu ychwanegol ar fyrder yng ngogledd Cymru. Yn ogystal â’r effaith ar gleifion, mae cost ariannol i’r prinder. Fe gododd gwariant ar staff meddygol o asiantaethau 64 y cant yn y ddwy flynedd a aeth heibio, tra mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn awgrymu y bydd Betsi Cadwaladr wedi gwario mwy na £21 miliwn ar staff meddygol o asiantaethau yn yr 11 mis hyd at ddiwedd Chwefror 2017—£21 miliwn; eu swm nhw eu hunain ydy hynny—ac nid ydy swm felly yn gynaliadwy nag yn synhwyrol. Ond fe ellid cynnal ysgol feddygol newydd am swm llawer llai na hynny.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau yn gyson fod ysgol feddygol newydd yn y gogledd, yn gwasanaethau rhannau gwledig ein gwlad, yn rhan o’r ateb. Mae astudiaethau mewn gwahanol wledydd wedi dangos bod tair ffactor yn ganolog i ddenu meddygon i weithio mewn ardaloedd gwledig: yn gyntaf, cefndir gwledig, un ail, fod y darpar feddyg yn cael profiadau clinigol ac addysgol cadarnhaol mewn lleoliadau gwledig fel rhan o hyfforddiant meddygol israddedig, ac, yn drydydd, fod hyfforddiant ar gyfer lleoliadau gwledig wedi cael ei dargedu yn benodol ar y lefel ôl-raddedig.
Mae un o raglenni hyfforddi meddygol mwyaf llwyddiannus mewn ardal wledig yn gynllun rhwng pum talaith yn yr Unol Daleithiau, Washington, Wyoming, Alaska, Montana ac Idaho—cynllun WWAMI. Mae graddedigion y sefydliad yma yn dychwelyd i ymarfer mewn ardaloedd gwledig ar raddau llawer uwch na graddedigion o’r mwyafrif o ysgolion meddygol gwladwriaethol yn yr Unol Daleithiau. Mae 83 y cant o raddedigion WWAMI yn ymarfer mewn practis gwledig. Yn ysgol meddygaeth prifysgol Calgary, mae graddedigion o gefndiroedd gwledig ddwy a hanner gwaith mwy tebygol o ymarfer mewn practis gwledig na graddedigion o gefndir dinesig. Yn Norwy, roedd 56 y cant o raddedigion ysgol feddygol prifysgol Tromsø yn y gogledd yn aros mewn ardaloedd gwledig. Roedd 82 y cant o raddedigion a oedd yn dod yn wreiddiol o ogledd Norwy yn aros yno. Yn syml, mae darpar feddygon o ardaloedd gwledig yn tueddu i aros yn yr ardal wledig lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi.
Felly, a ydy hi’n ymarferol bosib cael ysgol feddygol ym Mangor? Ydy, yn bendant. Mae gan Iwerddon saith ysgol feddygol; mae gan yr Alban bump, gan awgrymu bod un ysgol feddygol ar gyfer pob miliwn o’r boblogaeth yn bosib. Tua miliwn yw poblogaeth ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd iechyd Powys efo’i gilydd, ond wedyn, fe ellid ychwanegu poblogaeth rhan o diriogaeth wledig bwrdd Hywel Dda at y ffigwr i ddod â ni yn grwn at y miliwn. Felly, mi fyddai trydedd ysgol feddygol i Gymru yn cyd-fynd efo strwythurau’r Alban ac Iwerddon.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson mai ym Mangor y dylid lleoli yr ysgol feddygol newydd. Byddai ysgol feddygol newydd ym Mhrifysgol Bangor yn adeiladu ar arbenigedd ysgol gwyddorau meddygol y brifysgol a’r hyfforddiant clinigol sy’n barod yn cael ei gynnig yn nhri ysbyty cyffredinol y rhanbarth. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen i ysgol newydd weithio ar y cychwyn efo ysgol feddygol sydd wedi ei sefydlu’n barod. Mae sawl enghraifft o ysgolion newydd yn adeiladu ar arbenigedd gwyddorau meddygol eu prifysgolion. Felly, mae yna ffordd amlwg ymlaen, a gydag amser, gall Bangor ddatblygu yn ysgol feddygol yn sefyll ar ei thraed ei hun.
I grynhoi, mae ysgol feddygol newydd yn hanfodol os ydy Cymru am daclo’r prinder sylweddol o feddygon sy’n wynebu’r wlad. Yn y gogledd ac yn ardaloedd gwledig Cymru, mae nifer o feddygon yn agosáu at oed ymddeol ac nid oes digon o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi yno. Mae Llywodraethau ledled y byd yn ymateb i sefyllfaoedd tebyg drwy gynyddu’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael. Mewn ardaloedd gwledig sy’n wynebu problemau tebyg i Gymru, mae sefydliadau hyfforddi newydd yn cael eu sefydlu. Mae’r ysgolion meddygol yn cael eu lleoli yn yr ardaloedd gwledig eu hunain. Nid yw addasu’r strwythurau sy’n bodoli’n barod ddim yn gweithio. Mae’r sefydliadau newydd yma, yn eu tro, yn creu cenedlaethau newydd o ddoctoriaid sy’n aros i wasanaethu yn yr ardaloedd lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi, gan ddelio efo’r prinder a gwella ansawdd y gofal i bobl yr ardaloedd hynny.
Mae’n bryd symud ymlaen efo atebion tymor hir a chynllunio ar gyfer sefydlu ysgol feddygol newydd, law yn llaw â’r dulliau tymor byr sydd ar waith ar y funud. Diolch.