Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Cadeirydd. Rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel Llywodraeth, mae ein gwelliant yn ei gwneud yn glir: ers datganoli, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd yn ein gweithlu meddygol, ond mae’r Llywodraeth hon yn bell o fod yn hunanfodlon. Er gwaethaf y llwyddiannau yr ydym yn tynnu sylw atynt, rydym yn cydnabod bod heriau o hyd mewn rhai arbenigeddau meddygol a rhai ardaloedd daearyddol yng Nghymru, yn union fel y mae heriau ar draws gweddill y DU. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo, yn ein rhaglen lywodraethu, i barhau i weithredu er mwyn denu a hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru. Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw, lansiwyd ein hymgyrch i annog meddygon, gan gynnwys meddygon teulu, i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw. Rydym wedi gweld effaith gynnar sylweddol gydag 84 y cant o lefydd hyfforddi meddygon teulu wedi’u llenwi ar ddiwedd rownd 1, o’i gymharu â 68 y cant ar yr un adeg y llynedd. Mae hynny’n cynnwys cyfraddau o 100 y cant o lefydd wedi’u llenwi yng nghynlluniau hyfforddi meddygon teulu Sir Benfro, gogledd-ddwyrain Cymru, a gogledd-orllewin Cymru.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol, wrth gwrs, fy mod wedi lansio ail gam Hyfforddi, Gweithio, Byw ar gyfer nyrsys yr wythnos diwethaf. Mae’r effaith gychwynnol o ran gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn galonogol iawn, gyda’n fideo hyrwyddo wedi cael ei gweld 30,000 o weithiau, a’n cynnwys yn cyrraedd dros 110,000 o bobl.
Nawr rwy’n gwybod bod y cynnig yn galw am ysgol feddygol ym Mangor, ac mae Sian Gwenllian wedi bod yn gyson iawn yn ei galwadau ar y mater hwn. Fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir yn y Siambr hon, yn yr wythnosau nesaf byddaf yn gwneud datganiad—fel y nodais y byddwn bob amser yn ei wneud—ar derfyn y gwaith a gomisiynais i ystyried y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys yr achos dros ysgol feddygol newydd. Nid wyf am geisio ymrwymo un ffordd neu’r llall cyn i’r gwaith hwnnw ddod i ben—dyna esbonio’n syml pam nad yw gwelliant y Llywodraeth yn cyfeirio at ysgol feddygol. Mae’n rhan o achos cyflawn rwyf wedi ymrwymo i’w gyflawni, wedi ymrwymo i ymateb iddo a dod yn ôl at yr Aelodau yn ei gylch, a byddaf yn gwneud hynny.
Ond beth bynnag fydd canlyniad y gwaith hwn, rydym yn gwybod bod angen i ni fod yn hyblyg ac archwilio pob opsiwn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant yng ngogledd Cymru. Mae gweithio ar draws ffiniau eisoes yn digwydd mewn mannau megis hyfforddiant arbenigol ar gyfer pediatreg, a sefydlu swyddi hyfforddi is-arbenigol ar gyfer anesthesia. Felly, er gwaethaf y cyfraniad digyfaddawd o negyddol gan Mark Isherwood, rwy’n hapus i gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliant yn enw Paul Davies.
Rwy’n awyddus i ymdrin ag ailffurfio’r 1,000 o feddygon—1,000 o feddygon dros 10 mlynedd o ran yr hyn sy’n ychwanegol, neu o ran yr hyn rydym ar hyn o bryd yn eu hyfforddi yn awr. Rydym eisoes yn hyfforddi—dros 10 mlynedd, byddwn wedi hyfforddi’r nifer honno o feddygon. Ond mae hyfforddi meddygon yn rhan o ddyfodol hirdymor y gwasanaeth iechyd—yr amser, yn ôl yr hyn a ddeallwn, y mae’n ei gymryd i hyfforddi meddygon, felly mae recriwtio a chadw ein gweithlu presennol yn rhan fawr o ble mae angen i ni fod, gan gynnwys y cyfraddau hyfforddi y soniais amdanynt yn gynharach. Mae yna ddull hirdymor o fynd ati yn hyn i gyd, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys y modelau gwaith y disgwyliwn i bobl ddod atynt, ac mae hefyd yn cynnwys y modd y byddwn yn darparu’r hyfforddiant hwnnw mewn gwirionedd hefyd.
Os ydym, fel y nododd Lee Waters, eisiau cael y pwynt ehangach ynglŷn â model gwahanol o ymarfer cyffredinol, lle mae meddygon teulu yn gweithio fel rhan o dîm ehangach, mae angen inni hyfforddi pobl i weithio yn y ffordd honno hefyd, oherwydd mae’r ffordd y mae ymarfer cyffredinol yn gweithio yn erbyn hyn yn wahanol iawn i 10 ac 20 mlynedd yn ôl, ac yn y 10 ac 20 mlynedd nesaf, bydd yn wahanol eto. Mae yna bob amser angen cyson i addasu—rydym yn gorfod deall pa niferoedd o wahanol weithwyr proffesiynol meddygol sydd eu hangen arnom i ddarparu’r math o wasanaeth y mae pobl, yn ddigon teg, yn ei ddisgwyl. Felly dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i’r gweithlu gofal iechyd ehangach—rydym yn dal i’w wneud yng nghyrsiau gogledd Cymru ac ym Mhrifysgol Bangor. Felly caiff cyrsiau eu comisiynu mewn nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg a chyrsiau peilot ar gyfer cymdeithion meddygol, yn ogystal â’r cyrsiau a gynigir yn ysgol glinigol Bangor. Nawr mae cymdeithion meddygol yn enghraifft dda o ddatblygu’r gweithlu ehangach mewn gofal iechyd. Maent yn dal i fod ar y cam treialu, ond rydym yn meddwl eu bod yn rhan o’r dyfodol, felly mae deall beth y mae Abertawe a Bangor yn ei ddarparu o ran y garfan newydd o gymdeithion meddygol yn bwysig i ni, yn ogystal â’r camau a gymerwn i wneud yn siŵr eu bod yn rhan o’n system gofal iechyd yng Nghymru, gyda llwybr gyrfa go iawn mewn modelau gofal a fydd yn gwneud gwahaniaeth.