Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae cymorth rhyngwladol yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n lliniaru dioddefaint dynol pan fo argyfyngau dyngarol yn taro. Mae’n arbed bywydau ac yn cryfhau cymunedau. Trwy weithio gyda’n gilydd, er enghraifft, rydym wedi haneru tlodi eithafol yn y 40 mlynedd diwethaf, ac wedi haneru niferoedd marwolaethau plant ers 1990. Mewn gwledydd sy’n datblygu, mae 91 y cant o blant bellach wedi’u cofrestru mewn ysgolion cynradd. Rhwng 2000 a 2014, mae dros 6.2 miliwn o farwolaethau malaria wedi’u hosgoi, gan achub bywydau—gan achub bywydau plant dan 5 oed yn bennaf. A gallwn fod yn hynod o falch o hanes Cymru. Efallai fod ein cyllideb a chyrhaeddiad ein pwerau yn gyfyngedig, fel arfer, ac o’u cymharu â’r gwaith a wnaed ar lefel y DU gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, ond mae’r gwaith a wneir gan sefydliadau ac unigolion i feithrin cysylltiadau gyda rhai sydd angen ein help o gwmpas y byd yn dangos haelioni rhyfeddol a llwyddiant mawr. Mae prosiect Cymru o Blaid Affrica wedi bod yn weithredol dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwnaeth waith anhygoel gyda phartneriaid ar draws Affrica. Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gysylltiadau gweithredol ag Affrica, gan helpu i hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd i ddarparu gofal iechyd yn eu cymunedau a datblygu sgiliau gweithwyr yn y GIG yng Nghymru hefyd yn eu tro.
I nodi enghraifft o’r de-ddwyrain, mae Midwives@Africa a leolir yn y Fenni yn darparu cyrsiau hyfforddi effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i diwtoriaid bydwragedd a bydwragedd yn ne Ethiopia. Mae’n bartneriaeth sy’n helpu’r ddwy ochr—mae’n gilyddol—gyda gweithwyr iechyd yn Ethiopia yn cael hyfforddiant hanfodol, a’r bydwragedd o Gymru sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn datblygu eu sgiliau addysgu, cyfathrebu ac arweinyddiaeth. Maent yn glod i’n cenedl ac i Ethiopia hefyd.
Bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld newid sylfaenol ac ail-lunio perthynas Cymru â gweddill y byd, wrth gwrs, o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r rhethreg elyniaethus a ddaw ar hyn o bryd o rai rhannau o’r sefydliad gwleidyddol yn peri gofid. Pan fo’r Prif Weinidog yn defnyddio iaith sy’n ymosod ar ein ffrindiau a’n cymdogion agosaf, mae’n peryglu statws ein cenedl ar y llwyfan byd-eang, nid yn unig mewn perthynas â chymorth rhyngwladol, ond mewn materion eraill hefyd, ac nid wyf am weld enw Cymru’n cael ei lychwino ar yr un pryd. Yn y cyd-destun hwnnw, Dirprwy Lywydd, mae’n bwysicach nag erioed fod gan Gymru ei brand byd-eang ei hun, ein bod yn parhau i fod yn genedl sy’n edrych tuag allan, i greu cysylltiadau ar draws y byd, ac ni allwn adael i’r cenedlaetholdeb cul sydd ar gynnydd mewn rhannau o wleidyddiaeth Prydain leihau ein proffil byd-eang. Mae arnom angen polisi rhyngwladol penodol i Gymru, a dylai gynnwys ymrwymiad i gymorth rhyngwladol yn ogystal. Rwyf o’r farn gadarn fod angen Ysgrifennydd y Cabinet dynodedig ar y wlad hon ar gyfer materion allanol yn Llywodraeth Cymru i arwain y strategaeth honno, ac nid wyf yn deall pam y mae’r Llywodraeth hon, unwaith eto, yn gwrthod gwneud hynny.
Dylai hefyd gynnwys yn y polisi rhyngwladol hwnnw ein bwriadau ynglŷn â sut rydym yn dymuno adeiladu ar gysylltiadau datblygu, a gallwn edrych tuag at wledydd eraill ar yr ynysoedd hyn, hyd yn oed. Gallwn edrych tua’r Alban i weld sut y mae strategaeth cymorth dyngarol uchelgeisiol wedi bod yn effeithiol, hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau sydd ganddynt yno. Mae eu cronfa ddatblygu o £9 miliwn yn seiliedig ar weledigaeth yr Alban fel dinesydd byd-eang da ac yn rhan o strategaeth ryngwladol ehangach ynghlwm wrth fasnach a chynlluniau cyfnewid addysgiadol yn ogystal. Felly, wrth i ni ymdrechu i wella statws Cymru ar y llwyfan byd-eang, rwy’n gobeithio y bydd datblygu rhyngwladol yn ffurfio rhan annatod o’r strategaeth honno yn y dyfodol, fel y mae wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf.