Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 17 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn y 10 mlynedd y bûm yn gweithio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd o gwmpas Cynulliad hwn, nid wyf yn credu fy mod wedi gweld cynnig sy’n hala ysgryd arnaf yn fwy na’r un ger ein bron heddiw. Nid wyf yn dweud nad yw diben neu’r swm o gymorth tramor yn bwnc ar gyfer dadl dda ac ystyrlon—mae’n amlwg ei fod. Ond ni allai’r ddeilen ffigys a wisgwyd gan Neil Hamilton i guddio ei wyleidd-dra ar dudalennau cylchgrawn ‘GQ’ guddio’r modd digywilydd y mae UKIP yn ceisio codi mater nad yw’n gysylltiedig â phwerau’r Cynulliad, mater sydd prin yn cyffwrdd o gwbl â’n rôl gynrychioliadol fel ACau, er mwyn bwydo cig coch asgell dde i’r ychydig gefnogwyr sydd ganddynt ar ôl.
Mae’r cynnig hwn yn gamarweiniol ac yn anghywir ac fe ddangosaf pam. Mae’n cyfeirio at darged mympwyol cynnyrch domestig gros o 0.7 y cant ar gyfer cymorth tramor. Nid oes dim yn fympwyol yn ei gylch, fel y mae David Melding newydd ei nodi—mae iddo hanes rhyngwladol hir ac wedi’i gyfrifo’n drylwyr. Yn wir, mae’n darged sy’n cael ei gydnabod i’r fath raddau fel bod Neil Hamilton wedi’i ethol ar sail ymrwymiad maniffesto i’r targed, gan fod maniffesto’r Ceidwadwyr yn 1997 yn dweud hyn:
Byddwn yn parhau i gynnal rhaglen gymorth ddwyochrog ac amlochrog sylweddol sy’n adlewyrchu’r dyhead i gyrraedd targed y Cenhedloedd Unedig o 0.7% o’r cynnyrch domestig gros ar gyfer cymorth fel amcan hirdymor.
Felly, fe safodd Neil Hamilton etholiad ar faniffesto o’r fath. Mae hyd yn oed—[Torri ar draws] Na, rydych wedi arllwys eich bustl. Rydych wedi cael eich cyfle i arllwys eich bustl yn y lle hwn. Mae hyd yn oed yn rhannol gyfrifol am y ffaith fod gennym y 0.7 y cant hwn, oherwydd wedi i fy hen gydweithiwr Martin Bell ei drechu yn Tatton, bu’n rhaid i Geidwadwyr Tatton ddod o hyd i groen glân, a’r croen glân y daethant o hyd iddo oedd rhyw George Osborne a aeth ati wedyn, pan oedd yn Ganghellor yn 2013, i gyflwyno’r union ymrwymiad hwn o 0.7 y cant, felly mae dwbl y bai ar Neil Hamilton am y sefyllfa rydym ynddi.
Mae rhan nesaf y cynnig yn cwyno am ddyled genedlaethol y DU o £1.6 triliwn. Wel, unwaith eto, pwy sy’n gyfrifol am ddyled y DU? Y cynllun economaidd hirdymor a gefnogir gan y Ceidwadwyr, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn anffodus, ond a gefnogir hefyd gan y Meistri Reckless a Carswell, a oedd bob amser yn pleidleisio’n gyson dros broses y gyllideb sydd wedi arwain at ein dyled genedlaethol o £1.6 triliwn. Rwyf wrth fy modd yn gweld Mark Reckless yn y lle hwn. Roeddwn yn meddwl nad oedd strategaeth long danfor y grŵp Ceidwadol yn mynd i’w adael i ddod i fyny i anadlu rhagor, ond mae wedi dod atom gyda—