Part of the debate – Senedd Cymru am 12:42 pm ar 23 Mai 2017.
Diolch i chi, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy, wrth gwrs, fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â Julie, sydd gyda ni yma heddiw, a gweddill ei theulu, sydd yn yr oriel rwy’n credu, ar ran y grŵp Ceidwadol ac ar fy rhan fy hunan yn bersonol. Rwy’n cofio’n dda y tro cyntaf—ac fe wnes i’r sylw hwn yr wythnos diwethaf— i mi gwrdd â Rhodri ac roedd e’n brysur yn codi baricêd yn ei ardd i atal fy ngwartheg rhag mynd i mewn i’w ardd. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel ffermwr, bod rhywun fel rheol wedi arfer gyda chryn dipyn o unigolion dig oherwydd bod eich gwartheg yn rhedeg o gwmpas yn eu gardd. Roedd gan Rhodri fwy o ddiddordeb yn y math o wartheg oedden nhw, a ble allai cyrchfan y gwartheg hynny fod yn y pen draw. Rwy'n credu bod hynny’n crisialu pwy oedd Rhodri Morgan yn dda. Roedd yn ddyn a oedd yn awyddus iawn i gael gwybod pethau, ac i ddeall pethau, ac, yn anad dim, roedd yn ddyn didwyll, parchus ac unionsyth. Cefais y fraint o wasanaethu yma yn un o dymhorau’r Cynulliad hwn o 2007 hyd 2011, ac, fel Aelod newydd, o blaid arall mae’n rhaid cyfaddef, roedd bob amser yn ymgysylltu, roedd bob amser yn trafod pethau, ac roeddech chi bob amser yn teimlo rhyw gyfeillgarwch rhyngddo ef a chithau. Rwy'n teimlo fy mod wedi cael braint fawr drwy gael gwasanaethu am un tymor yn y sefydliad hwn gydag ef. Y ffordd a oedd ganddo o ymddwyn yn swydd y Prif Weinidog, fel y mae’r Prif Weinidog wedi ei nodi, roedd yn hynod falch o fod yn y swydd honno ac roedd yn awyddus i’r sefydliad hwn lwyddo. Mae gennym ni, fel gwlad, ddyled fawr iddo am y ffordd, fel y mae’r cyn-Lywydd wedi ei amlygu’n barod, y gwnaeth lywio’r llong, ynghyd ag eraill, pan nad oedd dyfodol y sefydliad hwn yn sicr a chryn amheuaeth yn bodoli. Roeddem yn ffodus ei fod yno wrth y llyw, gan weithio gydag eraill, i wneud yn siŵr bod datganoli yn dod yn rhan annatod o'n democratiaeth ac yn rhan annatod o'n gwlad ni yma yng Nghymru.
Rwy’n cofio’n dda yr adegau pan fyddai ef i mewn yn y fan hon yn Brif Weinidog, yn aml iawn ddim yn hollol ar ei ben ei hun ar fainc y Llywodraeth, ond fe fyddai’n eithaf bodlon i ddechrau cwestiynau'r Prif Weinidog yn sefyll yn y fan yna gyda llond llaw o’i gydweithwyr o gwmpas. Roedd hi’n gyfnod gwahanol yn y dyddiau hynny, yn 2007, 2008, a byddai'n rhoi ateb manwl iawn i chi. Byddai'n rhoi ateb i chi y byddech yn anghytuno ag ef efallai, ond roeddech chi yn deall ei agwedd ef ac agwedd y Llywodraeth. Y peth arall a wnaeth fy nharo i, yn Aelod newydd yn y sefydliad hwn, oedd, yn enwedig, y ffordd yr oedd yn ymroi i drafodion y Cynulliad—sut yr oeddem yn eistedd yn y Cyfarfod Llawn yma, gyda’r papurau o’i flaen, yn gweithio drwy'r papurau hynny, a byddai ei gefndir yn Nhŷ'r Cyffredin yn dod i’r amlwg yn aml iawn, oherwydd, yn sydyn, er eich bod yn meddwl nad oedd e’n gwrando ac yn sydyn byddai heclo yn dod o gadair y Prif Weinidog, a oedd yn sicr o dynnu gwynt o hwyliau aelod newydd i ryw raddau, a dweud y gwir. [Chwerthin.] Ond yn ôl pob tebyg—o’m safbwynt i, beth bynnag, yn ffermwr ifanc, trwy eu cymdeithasau trafod nhw—deuthum i arfer â hynny.
Rwy’n cofio’n dda, wedyn, iddo symud i'r meinciau cefn, ac efallai fy mod yn camgymryd, ond rwy'n credu ei fod yn arfer eistedd yn yr un sedd ag y mae Julie yn eistedd ynddi heddiw—efallai byddai rheolwr busnes Llafur yn gallu cadarnhau hynny, ond rwy'n credu mai dyna’r fan yn fras. Er hynny, nid Prif Weinidog fyddai’n bodloni ar fynd i'r meinciau cefn ac eistedd yn dawel ydoedd—fe wnaeth ei ran, roedd yr awch hwnnw ganddo ac roedd ganddo flas ar fyw fel ei fod yn ysbrydoliaeth inni i gyd, byddwn i’n awgrymu.
Ni fyddwn yn ceisio dweud am funud fy mod yn gyfaill mynwesol i Rhodri, yn yr ystyr bersonol honno y bydd llawer o'r fainc flaen yma a’r meinciau Llafur yn ei mynegi, rwy’n siŵr, yn eu teyrngedau, ond rwy’n teimlo fy mod yn hynod freintiedig, ac rwy'n siŵr y bydd aelodau fy ngrŵp yn teimlo'n hynod freintiedig, ein bod yn gallu galw Rhodri yn gyfaill gwleidyddol ac yn gydnabod gwleidyddol. Gwnaeth y Prif Weinidog y sylw y byddai e’n gallu tawelu pobl pan oeddent yn cwrdd ag ef, byddai'n gwneud iddynt deimlo’n gartrefol, ac roedd bob amser yn dangos diddordeb mewn pobl wrth ddwyn eu henwau i gof.
Pan ddeuthum adref o ddadl yr arweinyddion—ac rwy’n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am fy ffonio i yn syth ar ôl dadl y Prif Weinidog, yn garedig iawn, i roi gwybod i mi am y newyddion trist, fel y gwn y rhoddodd wybod i’r arweinyddion eraill—roeddwn yn siarad â’m gwraig ar ôl hynny, ac mae hi'n cofio am seremoni y buom ni ynddi. I’r rhan fwyaf o wŷr neu wragedd sy'n mynychu digwyddiadau o’r fath gyda'u partneriaid yn y byd gwleidyddol, mae digwyddiadau o’r fath yn aml yn codi arswyd, gan y cewch eich taflu i'r bleiddiaid yn aml iawn. [Chwerthin.] Roedd Rhodri yn eistedd gyda Julia yn y cinio arbennig hwn yr oeddem ynddo, ac yn ei gwneud hi yn gyfan gwbl gartrefol ac roedd yn llawn gwir frwdfrydedd am yr hyn yr oedd hi yn ei wneud, ac yn dymuno cael gwybod am y pethau oedd o ddiddordeb iddi hi—roedd Julia yn amlwg yn gofyn cwestiynau iddo yntau hefyd, yn yr un modd. Ond un felly oedd Rhodri—gallai eich gwneud yn gartrefol, gallai ddeall yr hyn yr oeddech yn ei sôn amdano a gallai hefyd gynnig ateb i chi a rhoi golwg ar fywyd i chi a oedd yn crynhoi’r dyn yr oedd ef. Dyn agos i’w le, parchus ac anrhydeddus iawn. Rydym yn wlad ffodus iawn, iawn o fod wedi cael dyn o’r fath safon ar ddechrau’r cyfnod datganoli, yn y gadair, yn llywio’r llong ac yn rhoi cychwyn inni ar y daith yr ydym yn dal i fod arni.
Fel y gwnes i wrth agor fy sylwadau, rwyf am orffen drwy ailfynegi ein cydymdeimlad â Julie a gweddill y teulu. Mae’n rhaid ei bod yn golled enfawr, ond, gobeithio, gyda threigl amser, y bydd y galar yr ydych yn ei deimlo yn cael ei liniaru gan y llu o atgofion melys a chynnes sydd gennych am ddyn gwirioneddol fawr.