Part of the debate – Senedd Cymru am 12:51 pm ar 23 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Hoffwn, ar ran fy ngrŵp a’m plaid, ailadrodd y cydymdeimlad hefyd, sydd wedi eu mynegi i Julie ac aelodau eraill o deulu Rhodri.
Bûm yn Nhŷ'r Cyffredin ar yr un pryd â Rhodri am 10 mlynedd, o 1987 i 1997, ac er gwaethaf ein gwahaniaethau gwleidyddol, roedd Rhodri bob amser yn gydymaith diddorol a hynaws a chanddo amser i siarad bob amser. Roedd yn ddyn addfwyn ac yn ŵr bonheddig. Roeddwn i’n teimlo’n agos ato oherwydd ei bod yn amlwg ar unwaith, er ei fod yn ffyrnig o deyrngar i’w blaid ei hun, nad oedd fyth yn mynd i fod yn was i neb ond yn aelod llawn o garfan y lletchwith. A’r un mor bwysig, roedd yn ddi-ildio yn ei ymroddiad i gwrteisi sylfaenol bywyd a gwleidyddiaeth.
Ac yntau’n ddyn didwyll ei hunan, roedd yn gallu derbyn didwylledd eraill bob amser. Nid oedd yn magu unrhyw ddrwgdeimlad personol tuag at neb, hyd yn oed y rhai a oedd a barn wahanol iawn i’w farn ef ei hun. Yn wahanol i rai, ni chredodd erioed fod dadl ddemocrataidd yn cael ei gwella drwy sarhad personol a phardduo. Roedd yn ddigon eangfrydig i gydnabod y gall pobl fod yr un mor ddiffuant yn eu hawydd i wneud daioni er eu bod yn gwahaniaethu’n sylfaenol o ran eu daliadau gwleidyddol. Roedd yn rhan o’r elfen honno o’r meddwl sosialaidd, a chanddi, yng ngeiriau Morgan Phillips, fwy o ddyled i Fethodistiaeth nag i Marx. Ond roedd Rhodri yn anghydffurfiwr mewn ystyr cyffredinol: ei wallt afreolus yn cyfleu ei wrthwynebiad pendant i gael ei reoli gan unrhyw beth heblaw ei gydwybod ei hun.
Mae ei ysgrif goffa yn 'The Daily Telegraph' yn ei ddisgrifio fel
AS Llafur a oedd yn torri ei gwys ei hun ... ac a anwybyddodd Tony Blair i ddod yn Brif Weinidog Cymru.
Ac roedd yn siomedig iawn yn 1997 pan fethodd Tony Blair â chynnig swydd weinidogol iddo. Ond o edrych yn ôl, efallai y byddai wedi cytuno bod Blair wedi gwneud cymwynas ag ef, fel yr ysgrifennodd Martin Shipton:
Mewn gwirionedd, swm a sylwedd y peth oedd—er nad dyn gwyllt ar y chwith mohono’n sicr—fod Rhodri yn gyferbyniad llwyr i’r math o wleidydd technocrataidd yr oedd Blair yn ei ffafrio.
Gan ei fod yn ddyn ffyddlon i’w blaid fe roddodd ei siom bersonol o’r neilltu a defnyddio rhyddid y meinciau cefn i ymroi’n frwdfrydig i'r ymgyrch dros sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. O ganlyniad, cafodd yr enw haeddiannol o fod yn dad datganoli yng Nghymru, nid yn unig am ei waith gydag ymgyrch y refferendwm gwreiddiol ond hefyd ei 10 mlynedd o fod yn Brif Weinidog. Ac fe wnaeth cymaint â neb i sefydlu'r Cynulliad hwn yn nodwedd barhaol ym mywyd Cymru, gan beri cryn syndod i rai fel fi a oedd yn llawn amheuon ar y cychwyn. Efallai nad y ddadl orau dros ei achos yw dweud mai hebddo fe, ni fyddwn i yma heddiw, ond pwy all wadu na fydd y fforwm hwn ar gyfer gwrthdaro egnïol rhwng safbwyntiau yn gofeb barhaol iddo.
Yn ymgyrch etholiad y Cynulliad y llynedd, gwnaeth Rhodri a minnau raglen deledu ar gyfer S4C, ac fel mae pob dyn â’i hanesion yn ei henaint roeddem ni’n diddanu ei gilydd â straeon am yr hen ddyddiau yn Nhŷ'r Cyffredin a'r cymeriadau yr oeddem wedi eu cyfarfod. Fyth yn was i neb, cyhoeddodd ei benderfyniad annisgwyl i ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog ar ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain a dywedodd,
’Does ’na byth amser iawn i fynd— roedd hi’n well peidio â mynd yn hyfach na’i groeso. Wel, efallai ei fod yn iawn yn hynny o beth bryd hynny, ond ac yntau ond yn 77 mlwydd oed, yn sicr nid dyma’r amser cywir iddo’n gadael am y tro olaf, ac mae Cymru yn llawer tlotach o’i ymadawiad cyn ei amser. Fel rhywun a oedd yn gwasanaethu’r cyhoedd yn anhunanol cafodd ei barchu gan bawb ar draws y sbectrwm gwleidyddol a'i garu fel y cynhesaf o ddynion gan y llu o bobl y daeth ar eu traws ym mhob agwedd ar fywyd. Dywedodd Dr Johnson fel hyn
Nid yw dyn yn mynd ar ei lw mewn ysgrifau a dorrwyd ar faen
Ond gallaf ddweud yn onest bod Rhodri yn un o'r dynion mwyaf cymeradwy y cefais y pleser o’u hadnabod mewn hanner canrif o fywyd cyhoeddus, ac mae'n anrhydedd i rodio yn ei gysgod.