Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 23 Mai 2017.
Yn sicr. Rwy'n siŵr fod y Siambr gyfan yn gefnogol o'r hyn a ddywedais yn gynharach a’r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud, yn wir. Ceir ymarferion i edrych ar sut y gellir ymdrin ag ymosodiadau fel hyn bob amser, ond pan fydd yn digwydd mewn gwirionedd, yna, wrth gwrs, mae'r system yn cael prawf trwyadl iawn. Ac yn sicr, mae’r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan y gwasanaethau brys, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld gan yr ysbytai a’r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan y gymuned yn dangos lefel y gwytnwch hyd yn oed yn wyneb trychineb.